Joseph Brown

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Joseph Brown
Ganwyd 2 Mai 1796 Edit this on Wikidata
Caerfaddon Edit this on Wikidata
Bu farw 12 Ebrill 1880 Edit this on Wikidata (83 oed)
Henffordd Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Lloegr Lloegr
Galwedigaeth offeiriad Catholig Edit this on Wikidata
Swydd esgob Catholig, esgob esgobaethol, esgob er anrhydedd Edit this on Wikidata

Roedd Y Wir Barchedig Esgob Thomas Joseph Brown (2 Mai, 179812 Ebrill, 1880) yn Offeiriad yr Eglwys Gatholig Rufeinig a wasanaethodd fel Esgob Catholig cyntaf Cymru ers y Diwygiad Protestannaidd. [1] [2]

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Brown yng Nghaerfaddon yn fab i Thomas a Catherine Brown. Yn naw mlwydd oed dechreuodd mynychu ysgol Benedictiad a oedd wedi ei leoli yn Acton Burnell, Swydd Amwythig. [3]

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 14 mlwydd oed ymunodd Brown a chymuned fynachaidd Urdd Sant Bened St Gregory, Ampleforth, Swydd Efrog fel nofydd gan gymryd ei lwon mynachaidd blwyddyn yn niweddarach wedi i'r gymuned symud i Downside, Gwlad yr haf.[4] Cafodd ei ordeinio'n offeiriad yn Llundain ar 7 Ebrill 1823. Am y chwe blynedd nesaf bu'n byw bywyd distaw yn dilyn rheolau ei urdd a gan ddod yn athro mewn athroniaeth a diwinyddiaeth i'w gyd fynachod.

Ym 1823 penderfynodd Esgob ardal Orllewinol yr Eglwys Gatholig yng Nghymru a Lloegr, yr Esgob Baines, ei fod am ddefnyddio mynachdy Downside i ffurfio coleg hyfforddi offeiriaid, gan dorri'r cysylltiad rhwng Urdd y Benedictiaid a'r mynachdy a chael y mynachod oedd yno i weithio o dan ei awdurdod ef. Gwrthododd y mynachod. Ym 1829 cwynodd yr Esgob Baines i Rufain am safle Urdd y Benedictiaid yn Lloegr. Roedd yr Urdd wedi ffoi i Loegr rhag y chwildro Ffrengig ar frys a heb amser i geisio caniatâd. Dadleuodd yr Esgob bod hwn yn golygu nad oedd yr Urdd wedi ei sefydlu yn gywir o dan gyfraith eglwysig a gan hynny offeiriaid cyffredin o dan ei awdurdod ef, ac nid o dan awdurdod eu hurdd, oedd trigolion Downside. Cafodd mynachod Downside gwybod am gynlluniau Baines a siarsiwyd Brown i fynd i Rufain i ddadlau achos y mynachdy. Llwyddodd i ennill yr achos. [5]

Wedi dychwelyd i Loegr roedd wedi dod yn ffigwr enwog ymysg Catholigion y wlad. Yn fuan wedyn daeth yn enwog ymysg Protestaniaid hefyd wedi iddo gytuno bod yn rhan o ddadl a gynhaliwyd dan nawdd y Gymdeithas Diwygio Protestaniaeth ar gae rasio ceffylau Cheltenham. Bu'r Protestaniaid a'r offeiriad Catholig yn dadlau ar y pynciau diwinyddol oedd yn gwahanu'r ddau draddodiad Cristionogol dros 5 niwrnod o flaen tyrfaoedd o 4 mil o wrandawyr. Ym 1834 bu'n rhan o ddadl dros gyfnod o 6 niwrnod gyda'r un gymdeithas a gynhaliwyd yn Downside ar fodolaeth y purdan. [5]

Ym 1834 derbyniodd y Tad Brown gradd doethur a'r flwyddyn ganlynol fe'i hetholwyd i swydd Prior (pennaeth) ei fynachdy

Esgob Cymru[golygu | golygu cod y dudalen]

O herwydd deddfau oedd yn cyfyngu ar hawliau Catholigion ym Mhrydain Protestannaidd, doedd gan Gatholigion Prydain dim hawl i drefnu eu heglwysi o dan drefn o Esgobaethau. Roedd Cymru a Lloegr wedi ei rannu i bedwar ardal ficeriaeth: Llundain, y Canolbarth, y Gogledd a'r Gorllewin. Roedd Cymru yn rhan o ficeriaeth y Gorllewin. Ym 1840 Penderfynodd y Pab byddai cenhadu Catholig yng Nghymru a Lloegr yn elwa o ddyblu'r nifer o ficeriaethau. Un o'r ficeriaethau newydd oedd ficeriaeth Cymru oedd yn cwmpasu Cymru, Sir Fynwy*, a Swydd Henffordd. (*Roedd rhai yn dadlau bod Sir Fynwy yn rhan o Loegr ar y pryd). Penodwyd Brown yn Esgob gyda chyfrifoldeb am y ficeriaeth newydd. Gan y byddai rhoi'r teitl "Esgob Cymru" iddo'n troi ardal ei gyfrifoldeb yn Esgobaeth, yn groes i'r gyfraith, fe'i hurddwyd yn Esgob Apallonia (enw nifer o ddinasoedd yn yr Eidal, Gwlad Groeg a Thwrci). [6]

Roedd ei esgobaeth newydd yn dalcen caled iawn i achos y Catholigion, ym 1800 doedd dim ond 7 capel (doedd dim hawl gyfreithiol i'w galw'n eglwysi) a thua mil o aelodau trwy Gymru gyfan. Wrth i bobl symud oherwydd y Chwildro Diwydiannol, roedd y sefyllfa wedi gwella ychydig. Roedd tua 700 yn cwrdd mewn llofft stabl dywyll ym Merthyr a stafell fach yn gwasanaethu fel capel yng Nghaerdydd.

O ganlyniad i An Gorta Mór, Newyn Mawr Iwerddon, rhwng 1845 a 1849, symudodd nifer fawr o Gatholigion Gwyddelig i Gymru, er bod hynny wedi chwyddo praidd yr Esgob Brown, roedd eu tlodi dim yn golygu bod yr arian angenrheidiol i'w bugeilio wedi cynyddu. Er hynny gwelodd ei gyfnod fel Esgob Cymru dyblu nifer o offeiriaid yn y wlad a sefydlu tua 50 o ysgolion Catholig. [5]

Esgob Casnewydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar 29 Medi 1850 cyhoeddodd y Pab Pius IX Bwla Pabyddol (gorchymyn dan sêl y Pab) o'r enw Universalis Ecclesiae i ail sefydlu hierarchaeth Gatholig yng Nghymru a Lloegr a chreu Esgobaethau Newydd. Rhoddwyd enwau newydd i'r Esgobaethau er mwyn sicrhau nad oeddynt yn ail ddefnyddio'r hen esgobaethau cafodd eu troi'n Esgobaethau Eglwys Loegr wedi'r Diwygiad Protestannaidd. Cododd y bwla gryn deimlad gwrth-Babyddol ymhlith Protestaniaid Cymru a Lloegr. Ymateb, llugoer, San Steffan oedd Deddf Teitlau Eglwysig 1851, deddf oedd yn gwrthod rhoi arfbeisiau a baneri i'r esgobaethau newydd, yn gwrthod caniatáu defnyddio enw unrhyw fan yng Nghymru a Lloegr fel enw "Esgob" (ond nid fel enw Esgobaeth). Daeth Joseph Brown, Esgob Apallonia, yn Esgob Esgobaeth Gatholig Casnewydd. (Esgobaeth oedd yn cwmpasu deheudir Cymru a Henffordd). [7]

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu farw yn ei gartref ger Henffordd yn 83 mlwydd oed. [8]. Claddwyd ei weddillion yn Abaty Bellmont, Henffordd [9]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. The Right Reverend Thomas Joseph Brown, D.D., O.S.B., Bishop of Newport and Menevia. (1880). The Downside Review, 1(1), 4–15
  2. Rees, D. (2004, September 23). Brown, Thomas (name in religion Joseph) (1798–1880), Roman Catholic bishop of Newport and Menevia. Oxford Dictionary of National Biography adalwyd 8 Awst 20189
  3. BISHOP THOMAS JOSEPH BROWN OSB (1798-1880) adalwyd 8 Awst 20189
  4. Hanes Downside adalwyd 8 Awst 2019
  5. 5.0 5.1 5.2 Hemphill, Basil. "Bishop Joseph Brown, O.S.B.: The Modern Apostle of Wales." Studies: An Irish Quarterly Review 39, no. 153 (1950): 31-39 adalwyd 8 Awst 2019
  6. Hood, D. (2000). ‘Stirring up the Pool’, Bishop Thomas Joseph Brown OSB (1798–1880) and the Dispute between the Hierarchy and the English Benedictines’. Recusant History, 25(2), 312-324.
  7. Roman Catholic Episcopacy in Wales from the Reformation to Queen Victoria
  8. "DEATH OF THE BISHOP OF NEWPORT AND MENEVIA - Weekly Mail". Henry Mackenzie Thomas. 1880-04-17. Cyrchwyd 2019-08-08.
  9. Find a Grave Rev Fr Thomas Joseph Brown