Josep Lluís Trapero Álvarez

Oddi ar Wicipedia
Josep Lluís Trapero Álvarez
Ganwyd12 Rhagfyr 1965 Edit this on Wikidata
Badalona Edit this on Wikidata
DinasyddiaethSbaen Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Agored Catalwnia
  • Institut de Seguretat Pública de Catalunya
  • FBI Academy Edit this on Wikidata
GalwedigaethMosso d'Esquadra, academydd Edit this on Wikidata
SwyddPrif Heddwas y Mossos d'Esquadra, Comisiynydd y Mossos d'Esquadra, Comisiynydd y Mossos d'Esquadra Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Mossos d'Esquadra
  • Prifysgol Barcelona
  • Prifysgol Ymreolaethol Barcelona Edit this on Wikidata
llofnod

Pennaeth heddlu Catalwnia, neu'r Mossos d'Esquadra oedd Josep Lluís Trapero Álvarez (ganwyd Badalona, 1965) a ddiswyddwyd gan Lywodraeth Sbaen wedi iddyn nhw alw Erthygl 155 yn eu hymdrech i reoli Llywodraeth Catalwnia. Diswyddwyd ef ar 28 Hydref 2017 wedi 26 mlynedd gyda'r Mossos.[1] Yn 2013 fe'i gwnaed yn Gomisiynydd yr Heddlu ac yn Brif Heddwas yn 2017, gan ddilyn Joan Unió.[2][3]

Oherwydd ei safiad, ni chymerodd y Mossos unrhyw ran yn ymgyrch Heddl Sbaen i atal Refferendwm ynghylch annibyniaeth Catalwnia 2017.

Yn ystod Ymosodiad Barcelona, Awst 2017 gweithredodd fel y prif ymchwilydd y Mossos, a derbyniodd ganmoliaeth uchel o bob cyfeiriad.

Diswyddiad[golygu | golygu cod]

Ar 4 Hydref 2017, yn dilyn Refferendwm 2017, cyhuddwyd Trapero gan erlynwyr Sbaen o Sedición, sef 'annog gwrthryfel'.[4] honir iddo wrth a gweithredu gorchmynion Llywodraeth Sbaen gan fod y Mossos yn atebol ac yn gyflogedig gan Lywodraeth Catalwnia. Gall y cyhuddiad hwn ddwyn cosb o hyd at 15 mlynedd o garchar. Anogodd ei heddweision "i fod yn hynod o oddefol ac ymatal rhag unrhyw fath o drais".[5]

Ar 16 Hydref 2017 mynnodd erlynwyr Sbaen fod Trapero'n cael ei garcharu heb achos llys.[6] Ymatebodd barnwr o Ffrainc i hyn drwy ei ganiatau iddo fod yn rhydd, ar yr amod ei fod yn ymweld a'r llys pob pythefnos, gyda'i basport.

Ar 28 Hydref penodwyd Ferran López yn brif heddwas y Mossos; gwnaed y penodiad gan Weinidog Llywodraeth Sbaen, Juan Ignacio Zoido.[7][8][9]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Spanish PM removes Catalan regional premier from post, calls December 21 polls Archifwyd 2017-10-30 yn y Peiriant Wayback., elpais.es, 28 October 2017
  2. "Josep Lluís Trapero, designat nou major dels Mossos d'Esquadra" [Josep Lluís Trapero, designated new Mossos d'Esquadra Major] (yn Catalan). Barcelona: btvnotícies. 18 Ebrill 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-09-10. Cyrchwyd 9 Medi 2017.CS1 maint: unrecognized language (link)
  3. "Josep Lluís Trapero és el nou major dels Mossos, un càrrec vacant des del 2008" [Josep Lluís Trapero the new Mossos Major, a vacancy since 2008] (yn Catalan). Barcelona: Corporació Catalana de Mitjans Audiovisuals. 18 April 2017. Cyrchwyd 9 Medi 2017.CS1 maint: unrecognized language (link)
  4. Stothard, Michael (4 Hydref 2017). "Catalan police chief faces sedition investigation". Financial Times. Madrid. Cyrchwyd 4 Hydref 2017.
  5. Badcock, James (4 Hydref 2017). "Catalonia's police chief faces sedition charge for 'allegedly failing to follow orders' ahead of referendum". The telegraph. Madrid. Cyrchwyd 7 Hydref 2017.
  6. Associated Press, gol. (16 Hydref 2017). "The Latest: Spain asks for jailing of Catalonia police chief". The Washington Post. Barcelona. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-10-25. Cyrchwyd 16 Hydref 2017.
  7. López-Fonseca;erthygl gan J. Pérez, Óscar: La Fiscalía pide prisión incondicional para Trapero por la inacción de los Mossos yn EL PAÍS
  8. AP, gol. (16 Hydref 2017). "Spanish judge grants freedom with restrictions to Catalonia police chief". Oxford Times. Cyrchwyd 16 Hydref 2017.
  9. Zoido nomena Ferran López nou cap dels Mossos; ElNacional.cat; 28 Hydref 2017