Joseff I, Ymerawdwr Glân Rhufeinig

Oddi ar Wicipedia
Joseff I, Ymerawdwr Glân Rhufeinig
Ganwyd26 Gorffennaf 1678 Edit this on Wikidata
Fienna Edit this on Wikidata
Bedyddiwyd27 Gorffennaf 1678 Edit this on Wikidata
Bu farw17 Ebrill 1711 Edit this on Wikidata
Fienna Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfansoddwr, teyrn Edit this on Wikidata
SwyddYmerawdwr Glân Rhufeinig, Prince-Elector, brenin Bohemia, brenin Hwngari Edit this on Wikidata
TadLeopold I Edit this on Wikidata
MamEleonor Magdalene o Neuburg Edit this on Wikidata
PriodWilhelmine Amalia o Brunswick-Lüneburg Edit this on Wikidata
PlantMaria Josepha o Awstria, Archduke Leopold Joseph of Austria, Maria Amalia Edit this on Wikidata
LlinachHabsburg Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Urdd y Cnu Aur, Urdd y Cnu Aur Edit this on Wikidata

Uchelwr o Dŷ Hapsbwrg oedd Joseff I (26 Gorffennaf 167817 Ebrill 1711) a fu'n Ymerawdwr Glân Rhufeinig o 1705 i 1711.

Ganed yn Fienna, yn fab hynaf i'r Ymerawdwr Leopold I. Coronwyd Joseff yn Frenin Hwngari yn 1687 ac yn Frenin y Rhufeiniaid yn 1690. Yn ystod Rhyfel Olyniaeth Sbaen (1701–14) cefnogodd Joseff hawl ei frawd iau, Siarl, i goron Sbaen, mewn ymgais i'w chadw dan reolaeth y Hapsbwrgiaid. Bu farw yr Ymerawdwr Leopold yn 1705, a fe'i olynwyd gan Joseff. Aeth ati i ad-drefnu cyllid y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd ac i wladoli banc Fienna. Enillodd lluoedd Awstria sawl buddugoliaeth, dan arweiniad Eugene, Tywysog Safwy, yn yr Eidal, yr Almaen, a'r Iseldiroedd, ond ni chafodd gwrthryfel Ferenc II Rákóczi yn Hwngari ei ostegu nes ar ôl marwolaeth Joseff. Yn 1707, bu ar fin brwydro'n erbyn Sweden wedi i luoedd y Brenin Siarl XII heidio i dir Awstria yn ystod y rhyfel yn erbyn Frederick Augustus I, Etholydd Sachsen. Bu ymgecru rhwng Joseff a'r Babaeth ar ei anterth yn 1708 pan cydnabuwyd Philip V yn frenin Sbaen gan y Pab Clement XI. Ymosododd lluoedd Awstria ar diroedd y Babaeth nes i'r Pab ail-ymuno ag achos y Hapsbwrgiaid yn 1709. Bu farw Joseff yn Fienna o'r frech wen yn 32 oed, a fe'i olynwyd yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig gan ei frawd Siarl VI.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Joseph I (Holy Roman emperor). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 3 Ebrill 2020.