José de Alencar

Oddi ar Wicipedia
José de Alencar
FfugenwErasmo Edit this on Wikidata
Ganwyd1 Mai 1829 Edit this on Wikidata
Fortaleza Edit this on Wikidata
Bu farw12 Rhagfyr 1877 Edit this on Wikidata
Rio de Janeiro Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBrasil Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Law School, University of São Paulo Edit this on Wikidata
Galwedigaethnewyddiadurwr, gwleidydd, cyfreithiwr, beirniad llenyddol, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
SwyddMinister of Justice of Brazil Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Guarani, Iracema, Ubirajara Edit this on Wikidata
Arddullnofel, dramayddiaeth, cronicl, hunangofiant Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolConservative Party Edit this on Wikidata
MudiadRhamantiaeth Edit this on Wikidata
TadJosé Martiniano Pereira de Alencar Edit this on Wikidata
PriodGeorgiana Augusta Cochrane Edit this on Wikidata
PlantMário de Alencar, Augusto Cochrane de Alencar Edit this on Wikidata
llofnod

Nofelydd, newyddiadurwr, a gwleidydd Brasilaidd oedd José Martiniano de Alencar (1 Mai 182912 Rhagfyr 1877) sydd yn nodedig am arloesi Indianismo yn llên Brasil. Ysgrifennodd hefyd ddramâu, ysgrifau, a barddoniaeth, ac mae ei weithiau llenyddol yn cyflwyno portread cyflawn o fywyd Brasil yng nghanol y 19g ac yn gyfraniad pwysig at hunaniaeth ddiwylliannol y wlad.

Ganed yn Fortaleza, prifddinas talaith Ceará, yng ngogledd-ddwyrain Ymerodraeth Brasil, i deulu a oedd yn weithgar yng ngwrthryfel Pernambuco (1817). Astudiodd y gyfraith yn São Paulo ac yn Recife cyn iddo ymsefydlu yn Rio de Janeiro i weithio i'r wasg. Yn 1856 cyhoeddodd ei ddwy gyfrol gyntaf, y nofel Cinco Minutos a'r casgliad o erthyglau Cartas sobre "A Confederação dos Tamoios" sydd yn ymdrin â'r gerdd honno gan Domingos José Gonçalves de Magalhães.[1]

Dygwyd mudiad Indianismo gan ei nofel arloesol O Guarani (1857): dyma'r esiampl gyntaf yn llên America Ladin o bortread nodweddiadol Ramantaidd o fywyd brodorion yr Amerig, ac yn cynnwys yr enwau brodorol am blanhigion ac anifeiliaid a disgrifiadau sentimental o'u traddodiadau. Ymhelaethodd Alencar ar y thema honno mewn sawl nofel arall ac yn ei arwrgerdd Os Filhos de Tupã, a ysgrifennwyd yn 1863 ond nas cyhoeddid nes y 1910au. Ymhlith ei nofelau eraill mae Senhora (1875) ac Encarnação (1893), y ddwy wedi eu lleoli yn y ddinas; y nofelau gwledig O Gaúcho (1870) ac O Sertanejo (1875); a'r nofelau hanesyddol As Minas de Prata (1862/1865–1866), Alfarrábios (1873), ac A Guerra dos Mascates (1873–1874). Ym myd theatr Rio de Janeiro, ysgrifennodd un ddrama hanesyddol, O Jesuíta (1875), a sawl comedi a drama.[1]

Gwasanaethodd Alencar yn gynrychiolydd dros Ceará yn Siambr y Dirprwyon, a chafodd swydd gweinidog cyfiawnder yn llywodraeth Brasil o 1868 i 1870.[2] Un o wrthwynebwyr yr Ymerawdwr Pedro II oedd Alencar, a fe'i trafodai yn feirniadol dan y ffugenw Erasmo, ar ffurf Ao Imperador: Cartas Políticas de Erasmo (1865) ac Ao Emperador: Novas Cartas Políticas de Erasmo (1866).[1]

Teithiodd Alencar i Ewrop yn 1877 i geisio gwella'i afiechyd. Bu farw o dwbercwlosis yn Rio de Janeiro yn 48 oed. Cyhoeddwyd ei hunangofiant, Como e Porque Sou Romancista (1893), dwy flynedd ar hugain wedi ei farwolaeth.[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Nofelau[golygu | golygu cod]

  • Cincos Minutos (1856).
  • O Guarani (1857).
  • A Viuvinha (1860).
  • As Minas de Prata (1862/1865–1866).
  • Iracema (1865).
  • O Tronco do Ipê (1871).
  • Til (1872).
  • Alfarrábios: Crônicas dos Tempos Coloniais (1873).
  • A Guerra dos Mascates (1873–1874).
  • Ubirajara (1874).
  • Senhora (1875).
  • O Sertanejo (1875).
  • O Gaúcho (1870).
  • Encarnação (1893).

Barddoniaeth[golygu | golygu cod]

  • Os Filhos de Tupã (1910–11).

Dramâu[golygu | golygu cod]

  • O Demônio Familiar (1857).
  • O Rio de Janeiro: Verso e Reverso (1857).
  • As Asas de um Anjo (1860).
  • Mãe (1862).
  • O Jesuíta (1875).

Erthyglau[golygu | golygu cod]

  • Cartas sobre “A Confederação dos Tamoios” (1856).
  • Ao Imperador: Cartas Políticas de Erasmo (1865).
  • Ao Emperador: Novas Cartas Políticas de Erasmo (1866).

Hunangofiant[golygu | golygu cod]

  • Como e Porque Sou Romancista (1893).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Richard Young ac Odile Cisneros, Historical Dictionary of Latin American Literature and Theater (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2011), tt. 31–32.
  2. (Saesneg) José de Alencar. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 1 Chwefror 2020.