José Pedro Díaz

Oddi ar Wicipedia
José Pedro Díaz
Ganwyd12 Ionawr 1921 Edit this on Wikidata
Montevideo Edit this on Wikidata
Bu farw3 Gorffennaf 2006, 2 Gorffennaf 2006 Edit this on Wikidata
Montevideo Edit this on Wikidata
DinasyddiaethWrwgwái Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, athro cadeiriol, awdur ysgrifau, beirniad llenyddol, bardd Edit this on Wikidata
PriodAmanda Berenguer Edit this on Wikidata

Bardd, nofelydd, ysgrifwr, a beirniad llenyddol o Wrwgwái yn yr iaith Sbaeneg oedd José Pedro Díaz (12 Ionawr 19213 Gorffennaf 2006). Roedd efe a'i wraig, y bardd Amanda Berenguer, yn aelodau La Generación del 45, mudiad o lenorion Wrwgwaiaidd a flodeuai yng nghanol yr 20g. Yn ogystal â'i farddoniaeth a'i nofelau, mae Díaz yn nodedig am ei feirniadaeth sy'n ymdrin â llên Ffrainc.

Priodasant Díaz a Berenguer yn nechrau eu hugeiniau, a thra'n byw gyda'i theulu hi fe wnaethon nhw sefydlu gwasg La Galatea yn y garej. Derbyniodd Díaz rodd ariannol yn 1950 ac aeth i Wlad Belg fel swyddog diwylliannol anrhydeddus, a thros y ddwy flynedd olynol daeth y ddau ohonynt yn gyfarwydd â ffigurau a mudiadau llenyddol Ewrop.[1]

Yn ogystal â'i feriniadaeth sy'n ymdrin â llên ei famwlad, gan gynnwys astudiaethau ganddo o Felisberto Hernández a Delmira Agustini, enillodd Díaz enw fel un o'r beirniaid amlycaf yn America Ladin i ysgrifennu am lenorion Ffrengig, megis Honoré de Balzac ac André Gide. Cyhoeddodd nifer o'i ysgrifau yn y cylchgrawn wythnosol Correo de los viernes. Ysgrifennodd hefyd astudiaethau beirniadol o waith y bardd Sbaenaidd Gustavo Adolfo Bécquer, a gesglid mewn cyfrol a gyhoeddwyd yn 1953.[2]

Fel awdur ffuglen, cydnabyddir Díaz am ei nofelau Los fuegos de San Telmo (1964), sy'n ymwneud ag hanes yr Wrwgwaiaid o dras Eidalaidd, a Partes de naufragios (1969), stori am fywyd ym Montevideo yn y 1930au a'r 1940au.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Renee Sum Scott, "Berenguer, Amanda" yn Latin American Women Writers: An Encyclopedia, golygwyd gan María Claudia André ac Eva Paulino Bueno (Efrog Newydd: Routledge, 2008).
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) William H. Katra, "Díaz, José Pedro (1921–2006)" yn Encyclopedia of Latin American History and Culture (Gale, 2008). Adalwyd ar 29 Mai 2019.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • Marie J. Peck, "José Pedro Díaz y Hemingway: una mitología comparada", Texto Crítico 12: 34-35 (1986), tt. 189–203.