Jorge Edwards
Jorge Edwards | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Jorge Edwards Valdés ![]() 29 Mehefin 1931 ![]() Santiago de Chile ![]() |
Bu farw | 17 Mawrth 2023 ![]() Madrid ![]() |
Dinasyddiaeth | Tsile, Sbaen ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | newyddiadurwr, diplomydd, beirniad llenyddol, ysgrifennwr ![]() |
Swydd | ambassador of Chile to France ![]() |
Arddull | nofel, stori fer, traethawd, cronicl, cofiant ![]() |
Plaid Wleidyddol | Evolución política ![]() |
Tad | Sergio Edwards Irarrázabal ![]() |
Mam | Carmen Valdés Lira ![]() |
Priod | Pilar de Castro Vergara ![]() |
Gwobr/au | Gwobr Miguel de Cervantes, Gwobr Genedlaethol am Lenyddiaeth, Uwch-Groes Urdd Sifil Alfonso X, Officier des Arts et des Lettres, Cymdeithas Goffa John Simon Guggenheim ![]() |
Nofelydd a beirniad llenyddol Sbaeneg a diplomydd Tsileaidd oedd Jorge Edwards (29 Mehefin 1931 – 17 Mawrth 2023) sy'n nodedig am ei hunangofiant o'i gyfnod yn llysgennad Tsile i Giwba, Persona non grata (1973).[1]
Ganwyd yn Santiago de Chile i deulu o dras Gymreig. Derbyniodd radd yn y gyfraith o Brifysgol Tsile yn 1958 ac ymunodd â'r gwasanaeth diplomyddol. Fe'i anfonwyd gan y llywodraeth i astudio gwyddor gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Princeton yn 1959. Yn ystod ei yrfa lenyddol gynnar cyhoeddodd sawl casgliad o ffuglen fer, gan gynnwys El patio (1952), Gente de la ciudad (1961), Las máscaras (1967), a Temas y variaciones (1969), sy'n ymwneud â chymeriadau dosbarth-canol sy'n gweithio yn y fiwrocratiaeth. Mae ei nofelau hefyd yn ymdrin â bywyd y dosbarth canol a themâu gwleidyddol, yn eu plith El peso de la noche (1965), Los convidados de piedra (1978), El museo de cera (1981), La mujer imaginaria (1985), El anfitrión (1987), ac El origen del mundo (1996).
Yn ei lyfr Persona non grata, sy'n ymwneud â'i brofiadau yn llysgennad i Giwba yn nechrau'r 1970au, mynegodd Edwards feirniadaeth o lywodraeth sosialaidd Fidel Castro. Derbyniodd ymateb cymysg gan lenorion eraill ar draws America Ladin, nifer ohonynt yn aelodau'r adain chwith.
Derbyniodd Wobr Cervantes yn 1999. Mae ei gweithiau diweddarach yn cynnwys El inútil de la familia (2004), sy'n seiliedig ar hanes ei ewythr, a La casa de Dostoievsky (2008), stori am fardd yr avant-garde sy'n teithio i Giwba yn y 1960au. Ysgrifennodd Edwards hefyd y gyfrol Adiós, poeta (1990), astudiaeth o Pablo Neruda.[2]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ "Who was Jorge Edwards?". Al Dia (yn Saesneg). Cyrchwyd 26 Mawrth 2023.
- ↑ (Saesneg) Jorge Edwards. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 23 Mehefin 2019.
- Beirniaid llenyddol Tsileaidd yn yr iaith Sbaeneg
- Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Princeton
- Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Tsile
- Diplomyddion Tsileaidd
- Genedigaethau 1931
- Marwolaethau 2023
- Hunangofianwyr Tsileaidd yn yr iaith Sbaeneg
- Llenorion straeon byrion Tsileaidd yr 20fed ganrif
- Llenorion straeon byrion Tsileaidd yr 21ain ganrif
- Llenorion straeon byrion Tsileaidd yn yr iaith Sbaeneg
- Nofelwyr Tsileaidd yr 20fed ganrif
- Nofelwyr Tsileaidd yr 21ain ganrif
- Nofelwyr Tsileaidd yn yr iaith Sbaeneg
- Pobl o Santiago de Chile