Jonesville (Gogledd Carolina)
| Math | tref, city in North Carolina |
|---|---|
| Poblogaeth | 2,308 |
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Yadkin County |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 7.382777 km², 7.389908 km² |
| Uwch y môr | 288 ±1 metr |
| Cyfesurynnau | 36.2356°N 80.8422°W |
| Cod post | 28642 |
![]() | |
Jonesville yw'r dref hynaf yn Yadkin County, Gogledd Carolina, Unol Daleithiau America. Roedd ganddi boblogaeth o 1,464 yn ôl cyfrifiaf 2000. Ond ychwanegwyd 800 o bobl yn 2001 pan unodd ag Arlington, Gogledd Carolina, i'w gwneud y dref ail fwyaf yn y sir.
Mae Afon Yadkin yn gwahanu Jonesville rhag Elkin. Lleolir y dref yn rhafryniau Mynyddoedd Blue Ridge. Mae'n adnabyddus am ei gwinllanoedd.
Hanes yr enw
[golygu | golygu cod]Jonesville yw'r dref hynaf yn Swydd Yadkin. Yn ôl y llyfr hanes lleol An Illustrated History of Yadkin County 1950-1980, gan William E. Rutledge Jr. ei henw cynharaf oedd Martinsborough (1811). Cafodd yr enw ei newid i Jonesville er anrhydedd Hardy Jones (1747-1819), a ymladdodd yn y Chwyldro Americanaidd a bu fyw yn y dref. Ceir cofeb iddo ar lawnt yr eglwys Fethodist leol yn Jonesville.
