John Wynne Griffith
Gwedd
John Wynne Griffith | |
---|---|
Ganwyd | 1 Ebrill 1763 |
Bu farw | 20 Mehefin 1834 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwleidydd, botanegydd |
Swydd | Aelod o 6ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 6ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 7fed Senedd y Deyrnas Unedig |
Mam | Jane Griffith |
Plant | William Henry Griffith, Edward Humphrey Griffith, George Griffith |
Gwleidydd a botanegydd o Gymru oedd John Wynne Griffith (1 Ebrill 1763 – 20 Mehefin 1834) a oedd yn aelod seneddol dros etholaeth Bwrdeistrefi Dinbych o 1818 i 1826. Bu hefyd yn gadeirydd ar Fainc Sir Ddinbych ac yn gofiadur Dinbych.[1]
Un o'i brif ddiddordebau oedd botaneg a bu'n gyfrifol am ddarganfod rhai o blanhigion prinnaf Cymru, gan gynnwys Cotoneaster y Gogarth (Cotoneaster cambricus) a'r Tormaen Siobynnog (Saxifraga cespitosa).[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Escott, Margaret. GRIFFITH, John Wynne (1763-1834), of Garn, Denb.. History of Parliament Online. Adalwyd ar 22 Awst 2018.
- ↑ Wynne, Goronwy (2017). Blodau Cymru: Byd y Planhigion. Talybont, Ceredigion: Y Lolfa. ISBN 978-1-78461-424-9