John Williams (cerddor)

Oddi ar Wicipedia
John Williams
Ganwyd1814 Edit this on Wikidata
Tal-y-bont Edit this on Wikidata
Bu farw27 Mawrth 1878 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcerddor Edit this on Wikidata

Cerddor o Gaernarfon oedd John Williams (Gorfyniawc o Arfon) (181427 Mawrth 1878).

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd o yn Nhal-y-bont, ger Bangor, yn fab i Thomas Williams, llifiwr coed. Dysgodd elfennau o gerddoriaeth yn ysgol Robert Williams, Carneddi, Llanllechid. Pan oedd yn 25 aeth i Lerpwl, lle cafodd gyfarwyddyd pellach mewn cerddoriaeth gan Thomas Woodward; Dysgodd rhywfaint o Hebraeg hefyd. Cafodd swydd yn swyddfeydd cwmni nwy Lerpwl a daeth yn Brif Ysgrifennydd yr cwmni yn y pen draw.[1]

Yn 1847 dechreuodd gyhoeddi Y Canrhodydd Cymreig, mewn rhannau, ond oherwydd trwbl argraffu dim ond pedair rhan gafodd ei argraffu. Yn yr un flwyddyn cyhoeddodd Gramadeg Cerddorol, ac yn y diwedd aeth yn golled ariannol iddo. Yn 1849 trefnodd rifyn newydd o Gramadeg Cerddoriaeth (John Mills). Ysgrifennodd erthyglau ar gerddoriaeth ar gyfer Y Gwyddoniadur Cymreig, a chyfansoddodd neu drefnodd emynau ar gyfer Telyn Seion (R. Beynon), ar gyfer Seren Gomer, ac ar gyfer rhai casgliadau a gyhoeddwyd gan Richard Mills. Bu'n feirniadu mewn amryw o wyliau cerddorol ac yn eisteddfod genedlaethol Caernarfon yn 1862.

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  • M. O. Jones, Bywgraffiaeth Cerddorion Cymreig (1890)
  • Y Cylchgrawn, 1851
  • Y Cerddor, Mehefin 1893.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]