John Williams (naturiaethwr)

Oddi ar Wicipedia
John Williams
Llyfr (1990) am John Williams
Ganwyd1 Mawrth 1801 Edit this on Wikidata
Llansanffraid Glan Conwy Edit this on Wikidata
Bu farw1 Tachwedd 1859 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethmeddyg, naturiaethydd, awdur Edit this on Wikidata

Roedd John Williams (1 Mawrth 18011 Tachwedd 1859) yn feddyg a naturiaethwr o Lansanffraid Glan Conwy.

Bywyd Cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd John Williams ar Ddydd Gŵyl Dewi 1801 yn Y Felin Uchaf, Pentre'r Felin, Llansantffraid Glan Conwy, yn ail fab a'r trydydd o wyth o blant i Gadwaladr Williams a Jane (née Williams) ei wraig. Roedd Jane Williams yn perthyn i dylwyth Tan y Castell Dolwyddelan ac yn gyfnither i'r Parch John Jones, Talysarn [1]. Ni chafodd addysg sefydlog mewn ysgol barhaol, ond mynychodd ysgol deithiol a ymwelai â Fforddlas am gyfnod ac ysgol a gynhaliwyd gan Jesse Jones, Aberystwyth yng Nghapel Bedyddwyr Fforddlas. Ym 1813 cafodd le yn Ysgol Harrington Academy, Ysgol Rad anenwadol yn Lerpwl lle cafodd gwersi mewn morwriaeth, mathemateg a gramadeg Saesneg, cyn dychwelyd i Lansanffraid i gynorthwyo'i dad yng ngwaith y felin.[2]

Garddwriaeth[golygu | golygu cod]

Mae cryn ansicrwydd ynglŷn â dechrau gwaith John Williams fel garddwr. Mae'n debyg ei fod wedi cychwyn ar y gwaith yn Nyffryn Conwy gan weithio mewn gerddi plastai’r fro megis Castell Gwydir. Ym 1819 aeth i weithio yng ngerddi Betley Hall, Swydd Stafford lle bu am ddwy flynedd cyn symud i weithio am gyfnod o bedair blynedd yng ngerddi Ashbridge yn Swydd Hertford. Tra roedd yn Ashbridge câi astudio yn llyfrgell y plas a oedd yn cynnwys nifer o lyfrau academaidd am natur planhigion; cododd eu darllen awydd ar John Williams i wneud astudiaeth addysgiadol mewn garddwriaeth ac aeth i Lundain i astudio yn y Gerddi Botanegol Brenhinol yn Kew a'r Gerddi Llysieueg a Ffisig yn Chelsea.[3]

Gwaith fel meddyg[golygu | golygu cod]

Roedd William Williams, brawd hŷn John, wedi cymhwyso fel meddyg ac yn cadw meddygfa yn Abergele. Gan fod gwybodaeth am lysiau rhinweddol yn rhan o gymhwyster meddygon y dydd, aeth John Williams yn brentis meddyg at ei frawd ym 1827 ar ôl gorffen ei gyrsiau yn Llundain.[4]. Ym 1830 agorodd ei bractis ei hun yn Llanrwst. Yn ôl ei fab, Y Parchedig John Williams, cymhwysodd ei dad o Goleg y Llawfeddygon yn Nulyn ym 1832[1], er nad oes prawf o hynny i'w weld yng Nghofnodion y coleg.[5]

Erbyn 1832 roedd John Williams wedi symud o Lanrwst ac wedi ymgartrefu yng Nghorwen lle bu'n cadw meddygfa a siop fferyllydd hyd at 1850. Ym 1850 ymfudodd John a'i deulu i'r Amerig ar adeg y Rhuthr am Aur [6] er mwyn gweithio fel meddyg ymysg y mwynwyr, ond er gwaethaf pob ymdrech ni lwyddodd i wneud ei ffortiwn a thorrodd ei iechyd yn yr ymdrech.

Dychwelodd y teulu Williams i Gymru ym 1853 gan sefydlu ym Mroncysyllte hyd 1856, pan symudodd y teulu a'r practis meddygol i Wrecsam.

Gan ei fod wedi astudio cyrsiau llysieuol a meddygol ac wedi bwrw prentisiaeth, cyfrifid John Williams yn feddyg o'r iawn ryw, ond nid oedd ganddo unrhyw gymwysterau swyddogol. Erbyn y 1850au[7] bu sawl ymgais gan y llywodraeth i sicrhau gwell rheolaeth ar y proffesiwn meddygol a phenderfynodd Williams sicrhau ei statws trwy ymgeisio am raddau academaidd. Ar sail ei astudiaethau yn Chelsea cafodd radd L.S.A. (Leicentiate of the School of Apothecaries) ym 1856. Ym 1858 llwyddodd yn arholiadau Coleg Brenhinol y Llawfeddygon gan ennill gradd MRCS ac enillodd radd M.D. o Brifysgol St. Andrews yn yr un flwyddyn. Ym 1859 symudodd o Wrecsam i'r Wyddgrug er mwyn gweithio fel llawfeddyg gwaith mwyn plwm Minera.[8]

Faunula Grustensis[golygu | golygu cod]

Wynebddalen Faunula Grustensis

Yn ystod ei yrfa cyhoeddodd John Williams nifer o erthyglau a llythyrau yng Nghylchgronau meddygol a naturiaethol pwysicaf ei gyfnod gan gynnwys y Medical Times a Journal y Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol ar amryw o bynciau megis gwrtaith amaethyddol, cyfraith cyfnodoldeb a gwella'r dropsi. Ei gyhoeddiad mwyaf nodedig oedd y llyfr a gyhoeddwyd ganddo ym 1830 Faunula Grustensis[9].

Mae Faunula Grustensis (Planhigion Grwstaidd) yn llyfr gwyddonol ar gyfer lleygwyr er mwyn iddynt allu dysgu am fyd natur a sut i gofnodi'r hyn y maent yn eu darganfod. Mae'r llyfr yn trafod yr anifeiliaid a'r planhigion y darganfu'r awdur yn ardal Llanrwst, ond roedd ei apêl yn ehangach na'r fro ei hun; gobaith yr awdur oedd y byddai darllenwyr trwy Gymru, yn creu cofnodion cyffelyb ar gyfer eu hardaloedd hwy. Yn ogystal â nodi sut i greu cofnodion ysgrifenedig mae'r llyfr hefyd yn rhoi cyfarwyddyd ar sut i gadw samplau o fyd natur trwy egluro sut i flingo a stwffio anifeiliaid a sychu planhigion.

Eglwys Sant Hilary, Dinbych, lle priodwyd John Williams ag Emma Owen ym 1838.
Eglwys Llanfair Dyffryn Clwyd, lle cafodd ei gladdu.

Mae'r llyfr yn cynnwys gwybodaeth am rai o'r afiechydon mwyaf cyffredin yn Nyffryn Conwy a chynghorion y meddyg ar y moddion gorau i’w trin nhw. Mae'n trafod cyflwr masnach ac amaethyddiaeth y fro gan resynu at ddiffyg mentergarwch y trigolion yn eu defnydd o'r cynnyrch naturiol; ymysg pethau eraill mae'n awgrymu tyfu afalau yn yr ardal ac agor bragdy er mwyn cynhyrchu seidr i'w werthu yn Lloegr, tyfu cnydau tybaco, agor ffatri sebon i greu sebon o wymon y môr a phuro halen o ddŵr yr arfordir ger Llandudno.[5]

Gwerth mwyaf y llyfr yw ei restrau o enwau o anifeiliaid a phlanhigion tair ieithol yn y Lladin, y Saesneg a'r Gymraeg a fu (yn ôl Thomas Shankland, Llyfrgellydd Prifysgol Bangor) yn foddion i gadw rhai o'r enwau Cymraeg yn fyw.[10]

Cyflwynodd teulu John Williams ei holl gasgliad o dros bum mil o blanhigion i Goleg Prifysgol Cymru, Bangor ym 1902.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Priododd John Williams ac Emma Owen (1801-1868) merch Thomas Owen, rheithor Llangelynnin Sir Feirionydd. Cynhaliwyd y briodas yn Eglwys Sant Hilari, Dinbych ar Ionawr 1af 1838 [11]. Bu iddynt dau o blant. Bu farw John Williams ar 1 Tachwedd 1859 a'i gladdu ym mynwent Eglwys Santes Fair Llanfair Dyffryn Clwyd.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Cyhoeddwyd bywgraffiad i John Williams gan Carey Jones:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Bye-gones relating to Wales and the Border Counties; Cyf Tach 1893
  2. Y Llanc o Lan Conwy Carey Jones; Gwasg Gee 1990 ISBN 0707401984
  3. Y Genhinen, 1 Mawrth 1916
  4. Gwefan: Abergele Field Club and Historic Society Archifwyd 2014-05-28 yn y Peiriant Wayback.; adalwyd Chwef 17 2014
  5. 5.0 5.1 Y Llanc o Lan Conwy Carey Jones; Gwasg Gee 1990 ISBN 0707401984
  6. WILLIAMS , JOHN ( 1801 - 1859 ) yn Y Bywgraffiadur ar lein; adalwyd 17 Chwef 2014
  7. Medical Act 1858; adalwyd Chwef 17 2014
  8. Y Llanc o Lan Conwy gan Carey Jones; Gwasg Gee 1990 ISBN 0707401984
  9. Williams, John, Fanula Grustensis; John Jones Llanrwst 1830
  10. Llawysgrifau Thomas Shankland - Prifysgol Bangor
  11. Cofrestr Priodasau Eglwys St Hilary (Yng Ngofal Gwasanaeth Archifau Sir Ddinbych)