Neidio i'r cynnwys

John T. Lewis

Oddi ar Wicipedia
John T. Lewis
GanwydJohn Trevor Lewis Edit this on Wikidata
15 Ebrill 1932 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
Bu farw21 Ionawr 2004 Edit this on Wikidata
Dulyn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Ymgynghorydd y doethor
  • Alexander Dalgarno
  • David Bates Edit this on Wikidata
Galwedigaethmathemategydd, ffisegydd Edit this on Wikidata
Swyddcyfarwyddwr, cadeirydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amcrynhoad Bose–Einstein Edit this on Wikidata

Ffisegydd mathemategol o Gymro oedd John Trevor Lewis (15 Ebrill 1932 – 21 Ionawr 2004) a gyfrannodd at feysydd gan gynnwys mesur cwantwm, cyddwysiad Bose-Einstein a damcaniaeth gwyriadau mawr.[1] Roedd yn uwch athro yn Sefydliad Astudiaethau Uwch Dulyn (DIAS) yn Iwerddon o 1972, gan wasanaethu fel cyfarwyddwr yr Ysgol Ffiseg Damcaniaethol o 1975 hyd at ei ymddeoliad yn 2001. Ef oedd yn gyfrifol am Sefydliad Ymchwil Rhwydweithiau Cyfathrebu (yn Sefydliad Technoleg Dulyn).

Dyddiau cynnar

[golygu | golygu cod]

Rhieni Lewis oedd Trevor Lewis, brocer llongau, a'i wraig Tegwyn. Er iddo gael ei eni yn Abertawe, cafodd John ei fagu yng Nghaerdydd. Ar ôl astudio yn yr ysgol elfennol, mynychodd John Ysgol Uwchradd Caerdydd o 1942 hyd 1948. Arthur Davies oedd ei athro.

Bu farw mam John pan oedd yn ifanc ac ym 1948 symudodd y teulu i Belfast lle parhaodd John â'i addysg uwchradd o 1948 i 1949. Ym 1949, ar ôl ennill ysgoloriaeth, aeth i Brifysgol Queen's, Belffast, ac astudio mathemateg a ffiseg. Dyfarnwyd iddo B.Sc. yn 1952 mewn Mathemateg Gymhwysol a dyfarnwyd iddo Wobr William Blair Morton mewn Mathemateg Gymhwysol.

Tra ym Mhrifysgol Queen's, cyfarfu Lewis â Maureen MacEntee, a oedd yn gemegydd organig. Priodwyd y ddau ym Medi 1959 a bu iddynt bedwar o blant.

Gyrfa academaidd

[golygu | golygu cod]

Fel y nodwyd, astudiodd ym Mhrifysgol y Frenhines, Belfast, gan ennill BSc ym 1952 a PhD ym 1955 am draethawd ymchwil ar "Cyfrifiadau Cwantol yn Ymwneud â Phrosesau Cyfradd Penodol" ("Quantal Calculations Relating to Certain Rate Processes") a sgwennodd gydag Alexander Dalgarno a David Bates. Symudodd i Rydychen ym 1956, lle gweithiodd yn wreiddiol yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen ac yn ddiweddarach yng Ngholeg y Trwyn Pres (Brasenose) lle bu'n gweithredu fel Deon.[2] Ym 1969 treuliodd flwyddyn yn ymweld â Phrifysgol Rockefeller, Dinas Efrog Newydd a'r Sefydliad ar gyfer Astudiaethau Uwch.[3] Ym 1972, symudodd i Sefydliad Astudiaethau Uwch Dulyn ar ymddeoliad John L. Synge,[4] lle gwasanaethodd fel cyfarwyddwr yr Ysgol Ffiseg Damcaniaethol. Roedd yn athro er anrhydedd yn Abertawe, Caerdydd a Choleg y Drindod, Dulyn.[2] Roedd yn aelod o Academi Frenhinol Iwerddon ac yn is-lywydd uwch iddi ym 1988. Derbyniodd un o'r doethuriaethau er anrhydedd cyntaf gan Sefydliad Technoleg Dulyn ym 1999.

Roedd Lewis hefyd yn sylfaenydd ac yn brif wyddonydd Corvil, cwmni sy'n arbenigo mewn mesur a pherfformiad traffig Rhyngrwyd.[5]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ Pule, Joseph V. (2005). "John T. Lewis (1932–2004)". Bulletin of the Irish Mathematical Society (Irish Mathematical Society) 54: 15–24.
  2. 1 2 Duffy, Ken; Pule, Joe (2007). "John T. Lewis (1932–2004)". Markov Processes and Related Fields (Polymat) 13: 3–19.
  3. ↑ "Theoretical physicist who revolutionised telecoms". The Irish Times. 31 Ionawr 2004. t. 12.
  4. ↑ Pule, Joseph V. (2005). "John T. Lewis (1932–2004)". Bulletin of the Irish Mathematical Society (Irish Mathematical Society) 54: 15–24.Pule, Joseph V. (2005). "John T. Lewis (1932–2004)". Bulletin of the Irish Mathematical Society. 54. Irish Mathematical Society: 15–24.
  5. ↑ "Theoretical physicist who revolutionised telecoms". The Irish Times. 31 Ionawr 2004. t. 12."Theoretical physicist who revolutionised telecoms". The Irish Times. 31 Ionawr 2004. p. 12.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]