John Stevenson

Oddi ar Wicipedia
John Stevenson
Ganwyd1951 Edit this on Wikidata
Bangor Edit this on Wikidata
Bu farw12 Mawrth 2020 Edit this on Wikidata
Aberdâr Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethnewyddiadurwr, gohebydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Newyddiadurwr a gohebydd gwleidyddol oedd John Stevenson (195112 Mawrth 2020).[1]

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod]

Ganwyd John ym Mangor ac fe'i magwyd yn Llangoed ger Biwmares yn unig blentyn.

Aeth i Goleg y Brifysgol, Bangor i astudio Hanes a Diwinyddiaeth. Ei fwriad oedd mynd yn bregethwr ac esboniodd mewn cyfweliad gyda Beti George yn 2000 mai ei gymhelliad oedd bod yn ganolbwynt sylw. Roedd yn gefnogwr o'r Blaid Lafur ac ei uchelgais oedd dilyn Cledwyn Hughes fel Aelod Seneddol Môn.[2]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Wedi'r brifysgol, cafodd swydd fel prif swyddog personnel gyda'r hen gyngor Arfon.

Ymunodd a BBC Cymru yng Nghaerdydd fel ymchwilydd ond roedd rhaid iddo adael 'dan gwmwl' oherwydd ei alcoholiaeth. Wedi cyfnod hir yn byw ar y stryd, cafodd gyfle gan Ann Clwyd, AS Cwm Cynon ar y pryd i weithio iddi fel ymchwilydd. Cafodd gyfle arall wedyn yn gweithio fel cynhyrchydd ar raglen Stondin Sulwyn ar BBC Radio Cymru yn 1997. Aeth ymlaen i weithio fel gohebydd gwleidyddol yn Llundain, yn adrodd ar storiau fel ymosodiad terfysgol 9/11. Ymddeolodd ym mis Mawrth 2013.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Roedd yn gwybod ei fod yn hoyw yn ŵr ifanc ond teimlodd y pwysau cymdeithasol yn yr 1970au i gydymffurfio, yn enwedig o geisio dilyn gyrfa wleidyddol. Priododd ar ôl gadael y brifysgol a chafodd blant. Datblygodd ei ddibyniaeth ar alcohol yn ystod ei ddyddiau coleg a cafodd effaith andwyol ar ei fywyd nes ymlaen. Treuliodd gyfnod yn ysbyty iechyd meddwl Dinbych, ond methu wnaeth y driniaeth. Yn ei hunangofiant mae'n disgrifio sut y treuliodd wyth mlynedd yn alcoholig digartref.

Yn 2017 symudodd i fyw yn Aberdâr gyda'i bartner Mark Turner. Roedd Stevenson wedi cael strôc yn flaenorol a chafodd ail un yn 2017. O ganlyniad fe ddirywiodd ei leferydd a’i symudedd, ac roedd ei bartner yn gofalu amdano’n llawn amser.[3]

Cafwyd hyd iddo ef a'u bartner yn farw ar 12 Mawrth 2020. Yn 2022, cafwyd cwêst i'w farwolaeth a dywedodd y crwner ei bod hi’n “debygol” fod Stevenson wedi marw cyn 12 Mawrth, ond nad oedd modd cadarnhau hynny. Dywedodd ymhellach nad oedd unrhyw amgylchiadau amheus, a’i bod hi’n debygol fod Stevenson wedi marw’n naturiol.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Y gohebydd gwleidyddol John Stevenson wedi marw , BBC Cymru Fyw, 13 Mawrth 2020. Cyrchwyd ar 18 Mawrth 2020.
  2.  Ar fy Ngwaethaf. Gwales.
  3. "Marwolaeth cyn-newyddiadurwr y BBC am barhau'n ddirgelwch, medd crwner". Golwg360. 2022-01-12. Cyrchwyd 2023-07-02.