John Scudamore

Oddi ar Wicipedia

Tirfeddiannwr Seisnig a ddaeth yn fab-yng-nghyfraith i Owain Glyn Dŵr oedd Syr John Scudamore (fl. tua 14001432).

Roedd ganddo nifer o stadau ar y gororau, yn cynnwys un yn Monnington Straddell, gerllaw Kentchurch, a bu'n siryf swydd Henffordd. Yn 1402, llwyddodd i amddiffyn Castell Carreg Cennen yn erbyn ymosodiad gan Owain; parhaodd y gwarchae am tua blwyddyn. Mewn llythyr i John Fairford yn Aberhonddu, dywed Scudamore: "He (Owain) lay last night at Dryslwyn with Rhys ab Gruffydd, and there I was and spoke to him upon Wales and prayed for a safe conduct under his seal, to send home my wife and her mother and their company, and he would none grant me".

Tua 1410, priododd Scudamore ag Alys ferch Owain Glyn Dŵr, efallai ei ail briodas. Rhaid fod y briodas wedi ei chadw yn gyfrinach, gan fod y Deddfau Penyd yn 1402 wedi gwahardd unrhyw Sais rhag priodi a Chymraes, gyda gwaharddiad arbennig ar briodi aelod o deulu Glyn Dŵr. Ymddengys i'r briodas ddod i sylw Harri VI, brenin Lloegr yn 1432, a chollodd Scudamore ei swyddi fel stiward cestyll Trefynwy, Y Grysmwnt a'r Castell Gwyn. Cawsant nifer o blant, ac mae'r disgynyddion yn parhau i fyw yn yr ardal. Mae nifer o draddodiadau yn yr ardal yn awgrymu i Owain Glyn Dŵr ei hun ddiweddu ei oes yma, yn cael ei guddio gan Alys a'i gŵr.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • J.E. Lloyd. Owen Glendower
  • Chris Barber. In Search of Owain Glyn Dŵr