John Salusbury (m. 1566)
John Salusbury | |
---|---|
Man preswyl | Erbistog |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Swydd | Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr |
Tad | John Salusbury |
Mam | Jane Myddleton |
Priod | Catrin o Ferain |
Plant | John Salusbury, Thomas Salusbury |
Un o Deulu Salbriaid (neu 'Salusbury') oedd Siôn Salsbri neu'n swyddogol: John Salusbury (m. 1566), a gŵr cyntaf Catrin o Ferain.[1][2]
Bu'n Aelod Seneddol tros Sir Ddinbych yn 1545-7 a thros Dinbych yn 1554.
Ei rieni
[golygu | golygu cod]Ei dad oedd Syr John y Bodiau fel y'i gelwid weithiau oherwydd ei allu corfforol a'i fam oedd Jane, merch David Myddelton, Caer, ac o linach Gwaenynog. Bu John y Bodiau'n Siryf Sir Ddinbych yn 1541, 1542, ac yn 1575. Bu'n gwnstabl Castell Dinbych yn 1530, yn siambrlen Gwynedd ac yn Aelod Seneddol dros ei sir yn 1542-4, 1547-52, 1553, 1554 ac yn 1554-5. Bu fyw John y Bodiau am 12 mlynedd wedi iddo gladdu ei fab John yn 1566.
Merch Tudur ap Robert o Ferain, Sir Ddinbych oedd Catrin, ei fam, a elwir hefyd yn "Fam Cymru"; roedd yn ferch ddeallus a phwerus iawn. Bu farw yn 56 mlwydd oed.
Ei blant
[golygu | golygu cod]Gadawodd John a Catrin ddau fab:
- Thomas Salisbury (ganed 1564) a ddienyddiwyd yn 1586
- John Salusbury (ganed 1567), a etifeddodd y stad ar ei ôl ac a fu farw yn 1612.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Y Bywgraffiadur Arlein ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Adalwyd 19 Medi 2017.
- ↑ Gwyddoniadur Cymru; Gwasg Prifysgol Cymru; gol: John Davies; 2008.