John Rogers Thomas

Oddi ar Wicipedia
John Rogers Thomas
Ganwyd26 Mawrth 1830, 26 Mawrth 1829 Edit this on Wikidata
Casnewydd Edit this on Wikidata
Bu farw5 Ebrill 1896 Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcyfansoddwr, canwr, athro cerdd Edit this on Wikidata
Arddullopera Edit this on Wikidata
Math o laisbariton Edit this on Wikidata
llofnod

Roedd John Rogers Thomas (26 Mawrth/30 Mawrth 18295 Ebrill 1896) yn gyfansoddwr Americanaidd, pianydd, a chanwr o dras Gymreig.

Ganwyd Thomas yng Nghasnewydd, De Cymru. Yn faritôn a chyfansoddwr, daeth i America am y tro cyntaf gyda Chwmni Opera Sequin English a magodd ddiddordeb yng ngherddoriaeth America a oedd yn datblygu. Roedd yn canu a theithio gyda Bryant's Minstrels ac ymgartrefodd yn Ninas Efrog Newydd.

Ysgrifennodd fwy na chant o ganeuon Americanaidd poblogaidd yn ystod y 19g, yn cynnwys The Cottage by the Sea (1856), Old Friends and Old Times (1856), Bonny Eloise-The Belle of Mohawk Vale (1858), ' Tis But a Little Faded Flower (1860), When the War is Over,  Mary (1864), Beautiful Isle of the Sea (1865), Croquet (1867), Eilleen Allanna (1873), a Rose of Killarney (1876). O bryd i'w gilydd cyhoeddodd Thomas ddeunydd o dan y ffugenwau Charles Osborne, Arthur Percy a Harry Diamond. Yn ogystal ag ysgrifennu caneuon, cyfansoddodd Thomas dri gwaith pellach; The Picnic (1869), operetta plant gyda'r geiriau gan George Cooper; The Lady in the Mask (1870), operetta gyda'r geiriau gan George Cooper; a Diamond Cut Diamond (1876), opera parlor mewn un act.[1].

Yn ogystal â'i ganeuon poblogaidd, cyfansoddodd Thomas gerddoriaeth cysegredig, a chafodd ei adnabod hefyd fel athro yn Brooklyn ac yn Ninas Efrog Newydd, lle bu farw.

Cywiriad ar ddyddiad a man geni Thomas; a anwyd yn 1829 yng Nghasnewydd, "De Cymru" ac nid Rhode Island fel y dywedwyd yn wreiddiol uchod.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. pdmusic.org
  2. "Biographical Dictionary of American Composers," Claghorn, Charles Eugene, Parker Publishing Co., West Nyack, N.Y., 1973, ISBN 0-13-076331-4

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]