John Rogers Searle
| John Rogers Searle | |
|---|---|
| Ganwyd | 31 Gorffennaf 1932 Denver |
| Bu farw | 17 Medi 2025 Tampa |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater |
|
| Ymgynghorydd y doethor | |
| Galwedigaeth | athronydd, academydd, ymchwilydd deallusrwydd artiffisial, ieithydd |
| Cyflogwr | |
| Adnabyddus am | Chinese room |
| Prif ddylanwad | Ludwig Wittgenstein |
| Mudiad | athroniaeth ddadansoddol |
| Gwobr/au | Cymrodoriaeth Guggenheim, Medal y Dyniaethau Cenedlaethol, athro coleg Albertus-Magnus, Gwobr Jean Nicold, Jovellanos International Essay Award, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America, Ysgoloriaethau Rhodes, honorary doctor of the University of Łódź |
| Gwefan | http://ist-socrates.berkeley.edu/~jsearle/ |
| llofnod | |
Athronydd o Unol Daleithiau America oedd John Rogers Searle (31 Gorffennaf 1932 – 17 Medi 2025).
Derbyniodd ei ddoethuriaeth o Brifysgol Rhydychen a bu'n athro ym Mhrifysgol Califfornia. Mae ei weithiau mwyaf nodedig yn astudio iaith, yn benodol y syniad o siarad fel math o ymddygiad sy'n cael ei lywodraethu gan reolau penodol. Bu hefyd yn weithgar ym maes athroniaeth y meddwl, megis yn ei waith Intentionality, lle cynigodd ddamcaniaeth o gynnwys cyflyrau a digwyddiadau meddyliol, gan feirniadu'r duedd i ystyried deallusrwydd dynol a gweithrediad cyfrifiadurol yn gyfwerth. Mae ei weithiau nodedig yn cynnwys Speech Acts: An Essay in the Philosophy of Language (1969), Intentionality: An Essay in the Philosophy of Mind (1983), a The Rediscovery of the Mind (1992).
Searle a Deallusrwydd Artiffisial
[golygu | golygu cod]Mewn papur yn 1980, cyflwynodd John Searle gysyniad yr "Ystafell Tsieinëeg" - ffordd o ddadlau na all cyfrifiadur ddeall iaith, ac felly bod deallusrwydd artiffisial "cryf" yn amhosibl.
Aflonyddu rhywiol
[golygu | golygu cod]Bu John Searle yn aflonyddu cyflogai ym Mhrifysgol Berkey oedd yn gyn-ddisgybl iddo yn 2016, ac o bosib yn aflonyddu arni hi ac ar eraill cyn hynny - o ganlyniad torrodd y Brifysgol gysylltiad ag ef yn 2019.[1]
Safbwyntiau gwleidyddol
[golygu | golygu cod]Roedd yn gwrthwynebu mesurau i reoli rhent yn Berkley yn chwyrn, gan honni bod hyn yn amharu ar ei "ryddid" ef a landlordiaid eraill i wneud elw.[2]
Roedd yn cefnogi penderfyniad yr Unol Daleithiau i oresgyn Irac ac Affganistan.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Weinberg, Justin (2019-06-21). "Searle Found to Have Violated Sexual Harassment Policies (Updated with further details and statement from Berkeley) - Daily Nous" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-02-03.
- ↑ "Letters to the Editor. Category: Features from The Berkeley Daily Planet". www.berkeleydailyplanet.com. Cyrchwyd 2026-02-03.
- ↑ "Wayback Machine" (PDF). ist-socrates.berkeley.edu. Cyrchwyd 2026-02-03.