John Oxenbridge

Oddi ar Wicipedia
John Oxenbridge
Ganwyd30 Ionawr 1608, 1609 Edit this on Wikidata
Daventry Edit this on Wikidata
Bu farw28 Rhagfyr 1674 Edit this on Wikidata
Boston Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, gweinidog yr Efengyl Edit this on Wikidata
TadDaniel Oxenbridge Edit this on Wikidata
MamKatherine Harby Edit this on Wikidata
PlantTheodora Thatcher, Bathshua Oxenbridge Edit this on Wikidata

Difinydd a phregethwr anghydffurfiol o Sais a ymfudodd i Loegr Newydd yn ystod y cyfnod trefedigaethol oedd John Oxenbridge (30 Ionawr 160828 Rhagfyr 1674).[1]

Ganed yn Daventry, Swydd Northampton, Teyrnas Lloegr. Derbyniodd ei radd baglor yn y celfyddydau o Goleg Emmanuel, Caergrawnt, ym 1628, a'i radd meistr yn y celfyddydau o Neuadd Magdalen, Rhydychen (bellach yn rhan o Goleg Hertford), ym 1631. Fel tiwtor yn Neuadd Magdalen, lluniodd gorff o reolau ar gyfer gweinyddiaeth y coleg. Cafodd ei ddiswyddo ym Mai 1634, oherwydd ei ddiffyg parch tuag at awdurdodau'r brifysgol.

Dechreuodd Oxenbridge bregethu, ac aeth ar fordaith i Ynysoedd Bermwda. Dychwelodd i Loegr ym 1641 a bu'n gweinidogaethu ar grwydr a heb gysylltiad â'r un eglwys na chapel. Trigodd am rai misoedd yn Great Yarmouth, Norfolk, ac yna yn Beverley, Swydd Efrog. Gweithiodd yn weinidog yng Nghaerferwig, ar y ffin â Theyrnas yr Alban, pan gafodd ei benodi'n gymrawd gan Goleg Eton yn Hydref 1652. Fe'i diswyddwyd ym 1660, a dychwelodd i bregethu yng Nghaerferwig. Wedi iddo gael ei fwrw allan gan y Ddeddf Unffurfiaeth ym 1662, treuliodd rywfaint o amser yn India'r Gorllewin cyn ymsefydlu yn Boston, Massachusetts. Yno cafodd ei ordeinio'n weinidog yn yr Eglwys Gyntaf.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Michael P. Winship, "Oxenbridge, John (1608–1674)", Oxford Dictionary of National Biography (2004). Adalwyd ar 11 Rhagfyr 2020.