John Owen Jones (ap Ffarmwr)

Oddi ar Wicipedia
John Owen Jones
Ffugenwap Ffarmwr Edit this on Wikidata
Ganwyd1 Ionawr 1861 Edit this on Wikidata
Trefdraeth Edit this on Wikidata
Bu farw2 Mawrth 1899 Edit this on Wikidata
Nottingham Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethnewyddiadurwr Edit this on Wikidata

Roedd John Owen Jones (ap Ffarmwr) (1 Ionawr, 18612 Mawrth, 1899) yn newyddiadurwr ac yn ymgyrchydd dros hawliau gweision fferm.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd Jones ar fferm Ty'n y Morfa, Trefdraeth, Ynys Môn yn blentyn i Owen Jones, ffarmwr ac Emma (née Hughes) ei wraig.[2] Pan oedd ap Ffarmwr tua phedair blwydd oed bu farw ei dad. Ail briododd ei fam ac aeth y teulu i fyw i Ddwryan.

Addysg[golygu | golygu cod]

Aeth ap Ffarmwr i Ysgol y Bwrdd, Dwyran hyd 14 mlwydd oed. Wedi gorffen yn yr ysgol aeth i Gaernarfon fel prentis dilledydd. Yn ogystal â dysgu crefft y teiliwr bu hefyd yn parhau efo'i addysg gan gymhwyso i gael mynediad i Brifysgol Aberystwyth. Ar ôl cyfnod yn Aberystwyth aeth i Goleg Owens ym Manceinion. Ar y pryd roedd Prifysgol Aberystwyth yn darparu graddau Prifysgol Llundain. Roedd Coleg Owens yn paratoi efrydwyr i sefyll arholiadau gradd Prifysgol Llundain.[3]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Ar ôl ymadael a'r brifysgol aeth ap Ffarmwr i Lundain lle fu'n gweithio fel gohebydd y ddinas i bapur y Genedl Gymreig. Dychwelodd i Fôn i gadw ysgol ramadeg wrth barhau i ohebu i'r Genedl Gymreig a chyhoeddiadau eraill. Yn ystod y cyfnod yma bu'n ysgrifennu darnau barn ddylanwadol. Ysgrifennodd am gyflwr yr Eglwys Sefydledig mewn plwyfi gwledig mawr. Ei golofnau mwyaf dylanwadol oedd y rhai am gyflwr cyflogaeth gweision ffarm. O ganlyniad i'w erthyglau cynhaliwyd cyfarfodydd cyhoeddus i drafod sefyllfa'r gweision fferm trwy Gymru gyfan. Cynhaliwyd gorymdaith fawr yn Llangefni a chafodd ap Ffermwr ei gario ar ysgwyddau rhai o'r gorymdeithwyr trwy'r dref.[4]

Bu'r ymgyrch yn rhannol lwyddiannus. Torrwyd y nifer o oriau roedd disgwyl i'r gweision gweithio pob wythnos a bu rhywfaint o wella mewn amodau eraill. Methodd a gwireddu ei freuddwyd o ffurfio undeb i'r gweision fferm. Bu'r ymgyrch ar ran gweision fferm yn unig. Parhaodd y morwynion fferm i weithio oriau hir am gyflog tlawd.[5]

Ym 1891 ymunodd a staff y "Genedl" fel is-olygydd yr holl bapurau a argraffwyd gan Gwmni'r Wasg Genedlaethol Gymreig.

Ym 1895 ymddeolodd Thomas Lewis AS Rhyddfrydol Môn o'r Senedd a bu pwysau mawr ar ap Ffarmwr i sefyll yn ei le, ond fe wrthododd y cais.

Symudodd i Ferthyr Tudful ym 1895 i wasanaethu fel golygydd y Merthyr Times.[6] Ym 1897 symudodd i Nottingham i fod yn olygydd erthyglau y Nottingham Express gan aros yno hyd ei farwolaeth. Ym 1898 cyhoeddwyd ei lyfr Cofiant Gladstone yng Nghaernarfon.[7]

Teulu[golygu | golygu cod]

Roedd yn briod a merch oedd a'r enw morwynol E Williams (bu Mrs Williams, mam yng Nghyfraith, yn alaru yn ei angladd) [8] bu farw eu hunig blentyn ychydig fisoedd cyn ei farw ef. Bu farw Mrs E Jones ym 1919 [9]

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw yn ei gartref yn Coleville Street, Nottingham o neffritis yr arennau yn 38 mlwydd oed [10] a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Capel y Methodistiaid Calfinaidd yn Nwyran.[11]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Jones, F. P., (1970). JONES, JOHN OWEN (‘Ap Ffarmwr’, 1861 - 1899), newyddiadurwr. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 27 Chw 2020
  2. "AP FFARMWR - Papur Pawb". Daniel Rees. 1893-12-23. Cyrchwyd 2020-02-27.
  3. "MARWOLAETH AP FFARMWR - Y Genedl Gymreig". Thomas Jones. 1899-03-07. Cyrchwyd 2020-02-27.
  4. "MARWOLAETH AP FFARMWR - Y Werin". D. W. Davies & Co. 1899-03-11. Cyrchwyd 2020-02-27.
  5. John, Angela V (2011). Our mothers' land : chapters in Welsh women's history, 1830-1939. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 978-0-7083-2341-0. OCLC 772523637.
  6. "Ap FFARMWR - Y Cymro". Isaac Foulkes. 1894-08-30. Cyrchwyd 2020-02-27.
  7. "The Life of Gladstoneby Ap Ffarmwr - The North Wales Express". Robert Wiliams. 1898-07-08. Cyrchwyd 2020-02-27.
  8. "THE LATE AP FFARMWR - The North Wales Express". Robert Wiliams. 1899-03-10. Cyrchwyd 2020-02-27.
  9. "Family Notices - Y Clorianydd". David Williams. 1919-12-31. Cyrchwyd 2020-02-27.
  10. "DEATH OF AP FFARMWR - Weekly Mail". Henry Mackenzie Thomas. 1899-03-11. Cyrchwyd 2020-02-27.
  11. "CLADDEDIGAETH AP FFARMWRI - Y Genedl Gymreig". Thomas Jones. 1899-03-14. Cyrchwyd 2020-02-27.