Neidio i'r cynnwys

John Owen (Rhuthun)

Oddi ar Wicipedia
John Owen
GanwydJohn Owen
1941
Llanberis
Bu farwMehefin 2026
Alma materPrifysgol Bangor
Galwedigaethgweinidog, dramodydd, cyfarwyddwr a chyflwynydd
Cysylltir gydaCymdeithas Ddrama Rhuthun

Awdur, dramodydd, cyflwynydd, cyfarwyddwr theatr a Gweinidog yr Efengyl ar ran Eglwys Bresbryteraidd Cymru oedd y Parch. John Owen, Rhuthun (1940 - Mehefin 2026)[1]. Yn 2024, fe'i llongyfarchwyd am 60 mlynedd o wasanaethu, ers ei ordeinio ym 1964.[2] Yn yr un flwyddyn, tra'n fyfyriwr yng Ngholeg Prifysgol Bangor, ef fu'n portreadu'r prif gymeriad Morgan Llwyd yng nghynhyrchiad Cymdeithas y Ddrama Gymraeg o Hanes Rhyw Gymro, gan John Gwilym Jones.[3]

Ef oedd un o sefydlwyr Cymdeithas Ddrama Rhuthun ym 1979, lle y cafodd yr actor Rhys Ifans un o'i gyfleon cyntaf i actio gyda'i rieni ar lwyfan. Yn 2005, talodd Rhys deyrnged i waith a dawn John Owen am ei "ddewrder fel cynhyrchydd" yn ei ddewis o ddramâu".[4]

Bu Owen a'i wraig gyntaf Ann yn gyfrifol am gyfieithu'r ddrama Diwedd Dyn Bach a gyhoeddwyd gan Wasg Carreg Gwalch ym 1993.

Cafodd ei gyfrol Creu Briwsion ei chyhoeddi yn 2025 gan godi rhai miloedd o bunnau i elusennau cymdeithas motor niwron a Tenovus.

Bywyd Personol

[golygu | golygu cod]

Bu farw ei wraig gyntaf, Ann ym 1992 a'i ail wraig, Gwenda o'r clefyd motor neurone yn 2019 yn ddim ond 69 oed.[5][6] Roedd hi'n gyn-athrawes yn Ysgol Pentrecelyn, Rhuthun, ac yn gyn-bennaeth Ysgol Llandrillo, Corwen, ac yn hynod o weithgar gydag Eisteddfodau Cymru.[6] Derbyniodd Dlws John a Ceridwen Hughes yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2018, am ei chyfraniad i'w bro.[6] Roedd hi'n fam i 3 mab Dyfan, Trystan ac Ifor. Priodwyd y ddau ym 1994.[7]

Bu farw'r Parchedig John Owen ym mis Mehefin 2026 wedi brwydr hir gyda'i waeledd, yn 85 mlwydd oed. Mae'n gadael ei feibion Dafydd a Huw a'i lysfeibion Dyfan, Trystan ac Ifor Rhys.[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1 2 "Teyrngedau i'r Parchedig John Owen, Rhuthun - englynwr a chynhyrchydd". BBC Cymru Fyw. 2026-06-16. Cyrchwyd 2026-06-17.
  2. "Llongyfarch Gweinidogion a Blaenoriaid – Gwanwyn 2024 | Eglwys Bresbyteraidd Cymru". Cyrchwyd 2025-10-29.
  3. Rhys, Maureen (2006). Prifio. Gomer.
  4. "Ifans in tribute to drama roots" (yn Saesneg). 2005-02-07. Cyrchwyd 2025-10-29.
  5. "North Wales choir's donation in memory of inspirational headteacher". Rhyl Journal (yn Saesneg). 2024-04-05. Cyrchwyd 2025-10-29.
  6. 1 2 3 "Tributes paid to former teacher from Ruthin who had battled Motor Neurone Disease". Denbighshire Free Press (yn Saesneg). 2019-02-27. Cyrchwyd 2025-10-29.
  7. "Ancestry - Sign in". www.ancestry.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-10-29.