Neidio i'r cynnwys

John Monks

Oddi ar Wicipedia
John Monks
Ganwyd5 Awst 1945 Edit this on Wikidata
Manceinion Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Nottingham
  • Manchester Academy Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, undebwr llafur Edit this on Wikidata
Swyddaelod o Dŷ'r Arglwyddi, ysgrifennydd cyffredinol, ysgrifennydd cyffredinol Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur Edit this on Wikidata
MudiadSyndicaliaeth Edit this on Wikidata

Mae John Stephen Monks, Barwn Monks (ganwyd 5 Awst 1945) yn aelod Cydweithredol Llafur o Dŷ'r Arglwyddi ac yn gyn arweinydd undebol llafur, a wasanaethodd fel Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngres yr Undebau Llafur (TUC) yn y DU o 1993 hyd at 2003. Gwasanaethodd hefyd fel Ysgrifennydd Cyffredinol Conffederasiwn Undebau Llafur Ewrop (ETUC) o 2007 tan 2011, a chafodd ei benodi yn arglwydd am oes yn 2010.[1]

Bywyd cynnar

[golygu | golygu cod]

Ganed Monks yn Blackley, Manceinion, a chafodd ei addysg yn Ysgol Dechnegol Ducie yn Moss Side. Astudiodd Hanes Economaidd ym Mhrifysgol Nottingham.

Rhwng 1967 a 1969, roedd yn rheolwr dan hyfforddiant ac yn is-reolwr gyda Plessey yn Surrey.

Ymunodd â’r TUC yn 1969 ac erbyn 1977 roedd yn bennaeth yr Adran Trefniadaeth a Chysylltiadau Diwydiannol, ac yn Ddirprwy Ysgrifennydd Cyffredinol erbyn 1987. Cafodd ei ethol yn Ysgrifennydd Cyffredinol yn 1993.[2]

Bu'n Ysgrifennydd Cyffredinol Cydffederasiwn Undebau Llafur Ewrop ym Mrwsel, rhwng 2003 a 2011.[2]

Mae Monks hefyd wedi gwasanaethu ar nifer o gyrff eraill, gan gynnwys Acas o 1979 tan 1995. Yn 2000, cytunodd i gadeirio'r Comisiwn Cydweithredol, gan gyflwyno adroddiad yn 2001 gydag argymhellion ar gyfer y mudiad cydweithredol. Roedd hefyd yn Llywydd Cymdeithas Peilotiaid Awyr Prydain. Roedd yn gyfarwyddwr anweithredol i Thompsons Solicitors rhwng 2010 a 2019 ac yn ddarlithydd gwadd ym Mhrifysgol Manceinion. Mae'n is-lywydd Cyfiawnder dros Colombia a Sefydliad Smith, ac yn Llywydd y Gymdeithas Ymgyfraniad a Chyfranogiad. Mae gan Monks raddau er anrhydedd o brifysgolion Nottingham, Salford, Manceinion (UMIST), Cranfield, Caerdydd, Southampton, Kingston a'r Brifysgol Agored. Mae hefyd yn Gymrawd o Sefydliad City and Guilds Llundain.

Cymerodd ei sedd yn Nhŷ’r Arglwyddi ar 11 Hydref 2010, ar ôl cael ei wneud yn arglwydd am oes ar 26 Gorffennaf 2010 fel Barwn Monks, o Blackley yn Sir Manceinion Fwyaf.[1]

Fe'i penodwyd yn Chevalier y Légion d'Honneur yn 2014. 

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 London Gazette: no. 59502. p. 14515. 29 July 2010.
  2. 2.0 2.1 Stevenson, Alexander (2013). The Public Sector: Managing The Unmanageable. ISBN 978-0-7494-6777-7.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]