Neidio i'r cynnwys

John McGrath (dramodydd)

Oddi ar Wicipedia

[am gyn-arweinydd artistig National Theatre Wales, gweler John E. McGrath y cyfarwyddwr]

John McGrath
GanwydJohn Peter McGrath
1 Mehefin 1935
Penbedw
Bu farw22 Ionawr 2002
Alma materColeg Sant Ioan, Rhydychen
Galwedigaethdramodydd
Cysylltir gydaCwmni Theatr 7:84

Dramodydd a damcaniaethwr theatr o Brydain oedd John McGrath neu John Peter McGrath (1 Mehefin 193522 Ionawr 2002) a fu'n gefnogwr brwd i Sosialaeth yn ei ddramâu. Bu'n ddylanwad ar actorion Cymraeg yn y 1970au gyda'i gwmni drama arloesol 7:84, a gwelwyd sefydlu cwmnïau tebyg yn y Gymraeg fel Theatr Antur a Theatr Bara Caws.

Bywyd cynnar a gyrfa

[golygu | golygu cod]

Ganwyd McGrath ym Mhenbedw, ac addysgwyd ef yn Ysgol Alun Yr Wyddgrug. Roedd ei deulu o gefndir Yr Eglwys Gatholig Wyddelig.[1] Ar ôl ymarfer ei Wasanaeth Cenedlaethol, mynychodd Goleg Sant Ioan, Rhydychen. Yn ystod y 1960au bu'n gweithio i'r BBC, gan gyfarwyddo a sgriptio nifer o benodau o'r gyfres heddlu Z-Cars a ddechreuodd ym 1962.

Gyrfa theatrig

[golygu | golygu cod]

Caiff McGrath ei gofio orau fel dramodydd ac am lunio damcaniaethau egwyddorol dros theatr radical, boblogaidd. Llwyfannwyd ei ddrama Soft Or A Girl yn Theatr Everyman Lerpwl ddechrau'r 1970au gydag Alison Steadman, a fu'n llwyddiant mawr. Sefydlwyd Cwmni Theatr 7:84 ym 1971 gan McGrath, ei wraig a'i brawd, a chrewyd The Cheviot, the Stag, and the Black Black Oil (1973), ei ddrama fwyaf enwog, sy'n arddangos ei egwyddorion. Defnyddiodd rhai o dechnegau dramatig a theatrig theatr epig – lle mae actorion yn ymgymryd â sawl rôl gwahanol, ac yn llithro allan o gymeriad yn aml – y math o arddull a gysylltir â'r dramodydd Almaenig Bertolt Brecht.

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Priododd yr actores Elizabeth MacLennan o'r Alban ym 1962 ac roedd gan y cwpl ddau fab a merch.

Marwolaeth

[golygu | golygu cod]

Bu farw McGrath o lewcemia ym mis Ionawr 2002. Yn ei ysgrif goffa a gyhoeddwyd yn The Guardian, nododd Michael Billington : "No one since Joan Littlewood did more to advance the cause of popular theatre in Britain than John McGrath"

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Michael Billington Obituary: John McGrath, The Guardian, 24 January 2002

Ffynonellau

[golygu | golygu cod]
  • Kershaw, Baz. 1992. The Politics of Performance: Radical Theatre as Cultural Intervention. London and New York: Routledge. ISBN 0-415-05763-9.
  • MacLennan, Elizabeth. 1990. The Moon Belongs to Everyone: Making Theatre with 7:84. London: Methuen. ISBN 0-413-64150-3.
  • McGrath, John. 1981. A Good Night Out: Popular Theatre: Audience, Class and Form. London: Nick Hern Books, 1996. ISBN 1-85459-370-6.
  • McGrath, John. 1990. The Bone Won't Break: On Theatre and Hope in Hard Times. London: Methuen. ISBN 0-413-63260-1.
  • McGrath, John. 1996. Six-Pack: Plays for Scotland. Edinburgh: Polygon. ISBN 0-7486-6201-4.
  • Schechter, Joel, ed. 2003. Popular Theatre: A Sourcebook. Worlds of Performance Ser. London and New York: Routledge. ISBN 0-415-25830-8.

Gwefanau Allanol

[golygu | golygu cod]

John McGrath ar IMDb