John Luxmoore

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o John Luxmore)
John Luxmoore
Ganwyd1756, 1766 Edit this on Wikidata
Okehampton Edit this on Wikidata
Bu farw1830, 31 Ionawr 1830 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Alma mater
Galwedigaethoffeiriad Edit this on Wikidata
SwyddEsgob Bryste, Esgob Henffordd, Esgob Llanelwy Edit this on Wikidata
Priodunknown Barnard Edit this on Wikidata
PlantJohn Henry Montagu Luxmoore, Charles Scott Luxmore Edit this on Wikidata

Roedd John Luxmoore (1756 - 31 Ionawr, 1830) yn glerigwr Saesnig a wasanaethodd fel Esgob Llanelwy.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Does dim sicrwydd o'i ddyddiad geni ond fe'i bedyddiwyd yn Eglwys blwyf Okehampton, Swydd Dyfnaint ar 5 Ionawr, 1757.[2] Roedd yn blentyn i John Luxmoore, tirfeddiannwr a Mary (née Cunningham) ei wraig. Cafodd ei addysgu yn ysgol Ottery St Mary a Choleg Eton. Yn Eton enillodd ysgoloriaeth i fynd ymlaen i Goleg y Brenin, Caergrawnt lle graddiodd BA ym 1780 ac MA ym 1783. Derbyniodd gradd Doethur mewn Diwinyddiaeth gan Archesgob Caergaint ym 1795.[1]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Wedi coleg penodwyd Luxmoore yn diwtor i Iarll Dalkeith (a daeth wedyn yn Ddug Buccleuch). O dan nawdd y dug, cafodd nifer o benodiadau eglwysig: daeth yn rheithor San Siôr y Merthyr, Sgwâr y Frenhines, Llundain ym 1782; yn brebend Caergaint ym 1793, yn ddeon Caerloyw ym 1799, ac yn rheithor Taynton, Swydd Gaerloyw, ym 1800. Ym 1806 cyfnewidiodd San Siôr y Merthyr am St Andrew's, Holborn. Ym 1807 daeth yn esgob Bryste ac ym 1808 trosglwyddwyd ef i esgobaeth Henffordd. Wedi marwolaeth William Cleaver ym 1815 penodwyd Luxmoore yn Esgob Llanelwy yn ei le. Parhaodd yn Llanelwy hyd ei farwolaeth.[3]

Ac eithrio cyhoeddi tri o'i bregethau, prin oedd cyfraniad Luxmoore i fywyd crefyddol Lloegr na Chymru. Mae o'n cael ei ystyried fel enghraifft bur o'r fath o ddyn oedd yn derbyn uchel swyddi eglwysig er mwyn ennill safle a chyfoeth personol a theuluol.[4] Er bod ganddo swydd esgob parhaodd i dderbyn cyflog o swyddi eglwysig eraill nad oedd yn fodlon eu hildio. Yn ogystal â chasglu swyddi eglwysig iddo'i hun roedd hefyd yn eu rhan ag aelodau eraill ei deulu. Fel Esgob Henffordd, penododd ei fab hynaf, Charles Scott Luxmoore yn rheithor Cradley, ficer Bromyard, a Phrebendari Henffordd; ac, fel Esgob Llanelwy, ychwanegodd Darowen, Ddeon Llanelwy a Changhellor Llanelwy.[5] Penododd mab arall iddo, John Henry Montague, yn rheithor Chwitffordd a churad parhaol Moreton on Lugg, rheithor Marchwiail, rheithor Llanarmon-yn-iâl, Prebendari Meifod a Phrebendari Llanelwy.[6] Penododd, ei nai John Lukmoore (arall) yn rheithor Llanymynech.

Teulu[golygu | golygu cod]

Ym 1786 priododd Luxmoore ag Elizabeth Barnard, merch Y Parchedig Thomas Barnard [7] a nith Edward Barnard, profost Eton. Bu i'r cwpl deulu mawr.[1]

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw ym Mhalas yr Esgob Llanelwy yn 74 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion mewn claddgell yng Nghapel y Cyfieithwyr yn adain ogleddol yr Eglwys Gadeiriol.[8] Ar un adeg roedd yr adain ogleddol yn cael ei ddominyddu gan gofeb enfawr i’r Esgob a’i feibion. Cafodd y gofeb ei ddatgymalu a'i ddisodli gan gofeb garreg syml i'r Esgob.[9]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 "Luxmoore, John (1756–1830), bishop of St Asaph | Oxford Dictionary of National Biography". www.oxforddnb.com. doi:10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-17233. Cyrchwyd 2019-11-17.
  2. Familysearch John Luxmoore - England Births and Christenings, 1538-1975 adalwyd 17 Tachwedd 2019
  3. David Richard Esgobaeth Llanelwy: the history of the diocese of St Asaph; tudalen 251
  4. David Richard Esgobaeth Llanelwy: the history of the diocese of St Asaph; tudalen 152
  5. David Richard Esgobaeth Llanelwy: the history of the diocese of St Asaph; tudalen 261
  6. Thomas, David Richard Esgobaeth Llanelwy: the history of the diocese of St Asaph; tudalen 273
  7. "Summary of Individual | Legacies of British Slave-ownership". www.ucl.ac.uk. Cyrchwyd 2019-11-17.
  8. David Richard Esgobaeth Llanelwy: the history of the diocese of St Asaph; tudalen 233
  9. "The Transepts of St Asaph Cathedral in Denbighshire North Wales". 2018-05-23. Cyrchwyd 2019-11-17.