John Lloyd Williams

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
John Lloyd Williams
Ganwyd 10 Gorffennaf 1854 Edit this on Wikidata
Llanrwst Edit this on Wikidata
Bu farw 15 Tachwedd 1945 Edit this on Wikidata (91 oed)
Man preswyl Garndolbenmaen, Kensington Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth botanegydd, Athro Edit this on Wikidata
Cysylltir gyda Rhedynen Cilarne Edit this on Wikidata

Cerddor a botanegydd oedd John Lloyd Williams (10 Gorffennaf 185415 Tachwedd 1945). Cafodd ei eni yn y Plas Isa, Llanrwst, a oedd yn gartref ar un adeg i William Salesbury. Ar ôl cael addysg elfennol yn ysgol y 'Britis' yn Llanrwst enillodd ysgoloriaeth i Goleg y Normal, Bangor. Yn 1875 fe'i penodwyd yn brifathro ysgol newydd Garndolbenmaen, ac yn 1893 aeth i'r Royal College of Science yn Kensington gan astudio dan yr Athro John Bretland Farmer. Yn 1897 cafodd swydd darlithydd cynorthwyol ym mhrifysgol Bangor. Penodwyd ef yn Athro Botaneg yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth yn 1915. Mae wedi ei gladdu yng Nghricieth.

Cerddoriaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'n debyg ei fod yn fwyaf enwog am ei waith yn casglu hen alawon gwerin ac ef sefydlodd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru a golygodd ei chylchgrawn o 1909 hyd at ei farwolaeth yn 1945. Cyhoeddodd sawl trefniant o ganeuon gwerin a phedair cyfrol o hunangofiant.

Botaneg[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd John Lloyd Williams yn fachgen ifanc pan oedd dadl esblygiad yn ei hanterth yn dilyn cyhoeddi The Origin of Species Charles Darwin. Roedd y 19g hefyd yn gyfnod datblygu yr astudiaeth o ddosbarthiad daearyddol planhigion.

Daeth John Lloyd Williams o hyd i un o redynau prinnaf Cymru sef yr hyn a elwir heddiw yn T. speciosum. Yn Saesneg gelwir hi'n Killarney fern, a bristle fern. Yr enw Cymraeg yw rhedynen wrychog neu'r llugwe fawr.

Ffynhonnell[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Traethodydd 2000 Erthygl gan Dewi Jones

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Byd y Blodau 1924
  • Flowers of the wayside and Meadow 1927
  • Atgofion Tri Chwarter Canrif (Pedair cyfrol rhwng 1941 - 1945