John Knapp-Fisher
John Knapp-Fisher | |
---|---|
Ganwyd | Awst 1931, 1931 Llundain |
Bu farw | 21 Chwefror 2015 Hwlffordd |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | arlunydd |
Gwefan | http://www.johnknapp-fisher.com |
Arlunydd Seisnig yw John Knapp-Fisher (ganed 1931), sydd wedi bod yn byw a gweithio yng Nghymru ers 1965.[1]
Bywgraffiad[golygu | golygu cod]
Ganed yn Llundain, yn fab i Athro Pensaerniaeth yn y Coleg Celf Brenhinol.[2] Addysgwyd yn Ysgol Sant Andrew, Pangbourne a Choleg Eastbourne, Sussex cyn mynd i astudio ddylunio graffeg a teipograffeg yng Ngholeg Celf Maidstone.[1][3] Yn dilyn hyn fe wnaeth Wasnanaeth Cenedlaethol yn Heddlu Milwrol Mowntiedig Brenhinol y fyddin.[3]
Bu'n gweithio yn dylunio arddarngosfeydd yn Llundain am ddwy flynedd cyn cychwyn canolbwyntio ar baentio ac arddangos gwaith ei hun ym 1958.[3] Yn ddiweddarach, daeth yn ddylunydd set ar gyfer Theatr Margate Brenhinol a Theatr Castell Farnham. Yna, bu'n byw ar gwch yn Suffolk tan i'w wraig ddisgyn yn feichiog. Symudodd i Sir Gaerfyrddin ym 1965 ac agorodd ei stiwdio yng Nghroes-goch, Sir Benfro ym 1967.[2] Ym 1992, etholwyd yn aelod o'r Academi Frenhinol Gymreig.[1]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ 1.0 1.1 1.2 John Knapp-Fisher RCA born. 1931. Harbour Lights Gallery. Adalwyd ar 1 Medi 2011.
- ↑ 2.0 2.1 (25 Awst 2011) 'Kyffin' Sir Benfro'n dal i baentio. Golwg
- ↑ 3.0 3.1 3.2 John Knapp-Fisher. Gwefan swyddogol. Adalwyd ar 1 Medi 2011.