J. J. Williams (bardd)
| J. J. Williams | |
|---|---|
| Ganwyd | 8 Hydref 1869 Cymru |
| Bu farw | 6 Mai 1954 |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl |
Gweinidog, bardd a llenor Cymraeg oedd John James Williams, yn ysgrifennu fel J. J. Williams (8 Hydref 1869 – 6 Mai 1954).
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganed ef ym mhentre Taigwynion ger Tal-y-bont, Ceredigion. Bu'n gweithio mewn pwll glo am gyfnod, cyn cael ei addysgu ym Mhontypridd, Aberhonddu a Choleg Prifysgol Caerdydd. Ordeiniwyd ef yn weinidog gyda'r Annibynwyr, a bu'n gwasanaethu yn Abercynon, Rhymni, Pentre, Rhondda a Chapel Tabernacl, Treforys. Bu'n llywydd Undeb yr Annibynwyr yn 1935.
Gwaith llenyddol
[golygu | golygu cod]Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith, y tro cyntaf am ei awdl Y Lloer yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1906, cerdd a ddaeth yn boblogaidd iawn, ac eto am ei awdl Ceiriog yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llangollen 1908. Bu'n Archdderwydd o 1936 hyd 1939. Ymhlith ei gerddi mwyaf adnabyddus mae Clychau Cantre'r Gwaelod.
J. J. Williams oedd olygydd "Cerddi'r Bugail", Cyfrol Goffa Hedd Wyn (1918)