Neidio i'r cynnwys

John Humphreys (Wmffra Cyfeiliog)

Oddi ar Wicipedia
John Humphreys
Ganwyd20 Chwefror 1861 Edit this on Wikidata
Comins-coch Edit this on Wikidata
Bu farw4 Rhagfyr 1944 Edit this on Wikidata
Comins-coch Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Coleg Handsworth Edit this on Wikidata
Galwedigaethgweinidog yr Efengyl, bardd, ysgrifennwr, emynydd Edit this on Wikidata

Roedd John Humphreys (Wmffra Cyfeiliog) (20 Chwefror, 1861 - 4 Rhagfyr, 1944 ) yn weinidog Wesleaidd (yr Eglwys Fethodistaidd o 1928); yn fardd, yn llenor ac yn emynydd.[1]

Cefndir

[golygu | golygu cod]

Ganwyd Wmffra yng Nghomins-coch, Glantwymyn, Sir Drefaldwyn (Powys bellach) yn blentyn i David Humphreys, Labrwr a Sarah ei wraig. Roedd yr awdur a hanesydd y Wesleaid, Y Parch Thomas Jones Humphreys,[2] yn ewythr, brawd tad iddo. Mae cyfrifiad 1871 yn cofnodi Sarah Humphreys fel gwraig weddw[3] Ychydig ar ôl farwolaeth ei dad aeth Wmffra i fyw a gweithio ar fferm ei daid Humphrey Humphreys, Tŷ Cerrig, Darowen.[1]

Addysg

[golygu | golygu cod]

Wrth fyw a gweithio efo'i daid cafodd Wmffra Cyfeiliog chwe wythnos o addysg ffurfiol yn Ysgol Genedlaethol Darowen, ar wahân i hynny cafodd ei addysg gartref ac yn yr Ysgol Sul. Er gwaethaf tlodi ei addysg gynnar, cafodd ei dderbyn yn efrydydd yn yr Athrofa'r Wesleaid, Hansworth, Birmingham[1]

Ar gychwyn y diwygiad Methodistaidd, efengylwyr teithiol fu pobl fel John Wesley, Hywel Harris, George Whitfield a Phantycelyn, wedi i'r Wesleaid dod yn enwad annibynnol (flynyddoedd cyn Methodistiaid Calfinaidd Cymru) bu "teithio" yn parhau yn bwysig iddynt. Roedd gweinidog yn cael ei ordeinio yng nghynhadledd ganolog yr enwad, ac yna'n dechrau "teithio" trwy wasanaethu mewn un cylch am ychydig cyn symud i gylch arall y flwyddyn ddilynol heb setlo yn un ardal am weddill ei yrfa. Derbyniwyd Wmffra yn bregethwr lleyg ym 1880, a phregethodd ei bregeth gyntaf yn Llanidloes. Cafodd ei gyflogi fel gwas cylchdaith yn y Borth, Ceredigion ym 1882, cyn symud i Goleg Handsworth Birmingham i hyfforddi at y weinidogaeth. Dechreuodd deithio, fel gweinidog ar brawf yng Nghaerdydd ym 1885.[4] Bu wedyn yn gwasanaethu fel gweinidog yng Nglynrhedynog, Ystumtuen, Aberystwyth (3 gwaith), Machynlleth, Corris, Llanidloes, Cilfynydd, Trefeglwys a Llundain. Ym 1911 symudodd i adran Saesneg ei gyfundeb a bu'n arolygydd cylchdeithiau (grŵp o gapeli) Mynwy, ac wedyn Merthyr Tudful. Dychwelodd i'r weinidogaeth Gymraeg gan wasanaethu yn Llanfairfechan. Ymddeolodd o'r weinidogaeth sefydlog ym 1928 gan ddod yn "uwchrif" (gweinidog cynorthwyol ar bensiwn) yn ôl yn y Borth, cyn symud i Dyddewi am gyfnod cyn llawn ymddeol i'w fro enedigol ger Glantwymyn.[5]

Gwasanaethodd fel ysgrifennydd Cymanfa Cymraeg y Wesleaid rhwng 1905 a 1910. Bu'n ysgrifennydd y Genhadaeth Dramor ac ysgrifennydd bwrdd arholi gweinidogion ar brawf. Wedi symud i'r gwaith Saesneg bu'n ysgrifennydd Talaith (ardal debyg i esgobaeth) Caerdydd ac Abertawe

Llenor

[golygu | golygu cod]

Roedd Wmffra Cyfeiliog yn gyfrannwr toreithiog i gylchgronau ei enwad y Winllan, yr Eurgrawn Wesleyaidd a'r Gwyliedydd Newydd. Bu'n olygydd y Winllan o 1897 i 1903.

Gwasanaethodd fel aelod o bwyllgor golygyddol Llyfr Emynau Y Methodistiaid Wesleaidd (1900) a oedd yn cynnwys nifer o emynau a gyfansoddwyd ganddo. Pan gyhoeddwyd Llyfr Emynau y Methodistaidd Calfinaidd a Wesleaidd ym 1927[6] dim ond un o'i emynau oedd ynddi. Does dim o'i waith yng Nghaneuon Ffydd, y llyfr emynau cyd enwadol a gyhoeddwyd yn 2001.

Roedd yn cystadlu yn yr eisteddfodau lleol yn rheolaidd gan ennill amryw o gadeiriau a gwobrau eraill am brydyddiaeth.[7] Cafodd ei dderbyn i'r orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerfyrddin 1911[8]

Llyfrau

[golygu | golygu cod]
  • Esboniad ar Lyfr Josua (rhan 1, 1902)
  • Esboniad ar Lyfr Josua (rhan 2, 1903)
  • John Evans 'Eglwys Bach' — The Most Popular Preacher of Welsh Wesleyan Methodism (1920) cofiant Saesneg i John Evans, Eglwysbach
  • O Gylch Carn Fadryn (1930) nofel yn seiliedig ar fywyd Dewi Sant[9]

Ym 1890 priododd Wmffra â Martha Jane,[10] merch y capten John Jones, llongwr, Borth. Bu hi farw ym 1893.[11] Bu iddynt un mab. Ym 1896 priododd am yr ail waith ag Elizabeth Humphreys (enw morwynol a phriodasol). Bu iddynt un mab.

Marwolaeth

[golygu | golygu cod]

Bu farw yn ei gartref, Goleufryn, Comins Coch yn 88 mlwydd oed.[12]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 Y Winllan; Cyf. LVII rhif. 1 - Ionawr 1904 Ein horiel-Y Parch John Humphreys adalwyd 2 Mawrth 2026
  2. Thomas Jones Humphreys (1841 - 1934), gweinidog Wesleaidd. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 2 Maw 2026
  3. yr Archif Genedlaethol; Cyfrifiad Darowen. Cyf: RG10/ 5604; Ffolio: 26; Tud: 16 adalwyd 2 Mawrth 2026
  4. Y Gwyliedydd, 4th Medi 1889 Nodion am Bersonau a Godwyd i'r Weinidogaeth Wesleyaidd o Gylchdaith Machynlleth adalwyd 2 Mawrth 2026
  5. Thickens, John; Emynau a'u Hawduriaid. Caernarfon 1945. Tud. 110 J.Hum-Y Parch John Humphreys adalwyd 2 Mawrth 2026
  6. Oruchaf Iôr y Nef; Emyn rhif 313, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd Wicidestun
  7. Y Gwyliedydd, 14 Mawrth 1900 Llongyfarchiadau adalwyd 2 Mawrth 2026
  8. Aberdare Leader, 1 Gorffennaf 1911; tud 6, col 3 Yr adran Gymreig adalwyd 2 Mawrth 2026
  9. O Gylch Carn Fadrig ar Wicidestun
  10. Y Gwyliedydd 28 Ionawr 1891 Anerchiad Briodasol i'r Parch John Humphreys, gweinidog Wesleyaid Tre'rddol, a Miss Martha Jane Jones, Manchester House, Ceredigion. adalwyd 2 Mawrth 2026
  11. Gwyliedydd, 6 Rhagfyr 1893 claddedigaeth Mrs. John Humphreys adalwyd 2 Mawrth 2026
  12. Western Mail, 06 Rhagfyr 1944 adalwyd 2 Mawrth 2026