John Hughes (Lerpwl)

Oddi ar Wicipedia
John Hughes
Ganwyd11 Chwefror 1796 Edit this on Wikidata
Wrecsam Edit this on Wikidata
Bu farw8 Awst 1860 Edit this on Wikidata
Abergele Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgweinidog yr Efengyl Edit this on Wikidata
PlantMrs Josiah Thomas Edit this on Wikidata

Roedd John Hughes (11 Chwefror 17968 Awst 1860) yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac yn awdur Cymreig.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd Hughes yn Adwy'r Clawdd, Coedpoeth yn blentyn i Hugh Hughes, Saer Coed a Mary (née Davies) ei wraig. Roedd yn frawd i Richard Hughes, perchennog cwmni argraffu a chyhoeddi Hughes a'i Fab, cyhoeddwr ei holl lyfrau. Yr Ysgol Sul oedd brif ffynhonnell ei addysg yn blentyn.[2]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Dilynodd Hughes yn ôl traed ei dad trwy weithio fel saer coed hyd ei fod yn 19 mlwydd oed. Cafodd ei dderbyn yn aelod o Eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn Adwy'r Clawdd ym 1810 a dechreuodd pregethu ym 1813.[1] Ym 1815 rhoddodd gorau i fywyd y saer ac agorodd ysgol elfennol ym mhentref Yr Hôb. Ymadawodd a'i ysgol er mwyn mynd i'r ysgol ei hun i ddysgu Lladin a Groeg. Agorodd ysgol arall yn Wrecsam ym 1819 a oedd yn dysgu plant a hefyd yn derbyn myfyrwyr hŷn er mwyn eu paratoi at waith y weinidogaeth, gan nad oedd gan Y Methodistiaid Calfinaidd academi enwadol ar y pryd. Ym 1821 rhoddwyd caniatâd iddo i bregethu mewn unrhyw fan yng Nghymru ac ym 1822 pregethodd o flaen Cymdeithasfa'r Methodistiaid Calfinaidd. Cafodd ei ordeinio'n weinidog yn Y Bala ym 1829.[2]

Gan nad oedd gweinidogion yn cael cyflog lawn yn ei gyfnod parhaodd Hughes i gadw ei ysgol yn Wrecsam hyd 1834. Ym 1834 aeth i bartneriaeth ag un o'i frodyr mewn busnes gwerthu blawd, yn gyntaf yn Wrecsam ac yna yn Lerpwl. Ym 1838 penodwyd ef yn gyd weinidog ar gapeli Cymraeg y Methodistiaid Calfinaidd yn Lerpwl ar y cyd a'r Parch Henry Rees.[3] Ymddeolodd o'r weinidogaeth ym 1860 ychydig cyn ei farwolaeth.

Teulu[golygu | golygu cod]

Bu Hughes y briod ddwywaith. Ym 1820 priododd Mary Ann Jones; bu hi farw ym 1827. Ym 1833 priododd Grace, ei ail wraig. Rhwng y ddwy briodas cafodd pum mab a saith Merch.[2]

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw ar ymweliad ag Abergele yn 64 mlwydd oed.[4] Cludwyd ei gorff gan long o'r Rhyl i Lerpwl. Wedi gwasanaeth yng Nghapel Cymraeg Bedford Street a mynychwyd gan dros 64 o weinidogion claddwyd ei weddillion ym mynwent Toxteth Park.[5]

Awdur[golygu | golygu cod]

Darlun mewn olew (Casgliad LlGC)

Bu Hughes yn awdur a chyfieithydd nifer o lyfrau ar wahanol agweddau o fywyd crefyddol yn ei phlith oedd:

  • Cydymaith Yr Ysgrythyr: Yn Cynnwys Sylwadau Ar Ddilysrwydd Ac Ysbrydoliaeth Yr Ysgrythyrau
  • Y Profiedydd Ysgrythyrol, neu Eirlyfr cryno, o faterion Ysgrythyrol, dan adraniadau priodol, profedig ag adnodau o'r Beibl [6]
  • Drych prophwydoliaeth: neu Wiredd, dyben a deongliad prophwydoliaethau yr Ysgrythyrau Sanctaidd. [7]
  • Unoliaeth y Beibl fel prawf o'i darddiad dwyfol [8]
  • Hanes yr athrawiaeth Gristionogol [9]
  • Holwyddoreg ar hanesiaeth ysgrythyrol.[10]

Ei gampwaith fel awdur oedd y tair cyfrol Methodistiaeth Cymru : sef hanes blaenorol a gwedd bresennol y Methodistiaid Calfinaidd yn Nghymru, o ddechread y cyfundeb hyd y flwyddyn 1850 a gyhoeddwyd gan ei frawd rhwng 1851 a 1856. Mae copïau digidol o'r cyfrolau ar gael i'w darllen yn di dal ar wefan Internet Archive.[11][12][13][14]

Cyhoeddwyd cofiant iddo gan Roger Edwards ym 1864 Buchdraeth y diweddar Barchedig John Hughes, Liverpool, awdwr 'Methodistiaeth Cymru' &c. &c: ynghyda detholion o'i bregethau

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "HUGHES, JOHN (1796 - 1860), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, ac awdur | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-01-06.
  2. 2.0 2.1 2.2 "Hughes, John (1796–1860), Calvinistic Methodist minister | Oxford Dictionary of National Biography". www.oxforddnb.com. doi:10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-14081. Cyrchwyd 2020-01-06.
  3. "Y DIWEDDAR BARCH JOHN HUGHES LIVERPOOL - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1860-08-22. Cyrchwyd 2020-01-06.
  4. "DEATH OF THE REV JOHN HUGHES - Wrexham and Denbighshire Advertiser and Cheshire Shropshire and North Wales Register". George Bayley. 1860-08-11. Cyrchwyd 2020-01-06.
  5. "FUNERAL OF THE REV JOHN HUGHES WELSH CALVINISTIC MINISTER LIVERPOOL - The North Wales Chronicle and Advertiser for the Principality". Kenmuir Whitworth Douglas. 1860-08-18. Cyrchwyd 2020-01-06.
  6. Hughes, John (1846). Y Profiedydd Ysgrythyrol, neu Eirlyfr cryno, o faterion Ysgrythyrol, dan adraniadau priodol, profedig ag adnodau o'r Beibl. Gwrecsam: R. Hughes,.CS1 maint: extra punctuation (link)
  7. Hughes, John (1855). Drych prophwydoliaeth: neu Wiredd, dyben a deongliad prophwydoliaethau yr Ysgrythyrau Sanctaidd. Argraffwyd gan R. R. Meredith.
  8. Hughes, John (1866). Unoliaeth y Beibl fel prawf o'i darddiad dwyfol. Liverpool: T. Lloyd.
  9. Hughes, John (1883). Hanes yr athrawiaeth gristionogol. Treffynnon: P.M. Evans & Son.
  10. Hughes, John (1859). Holwyddoreg ar hanesiaeth ysgrythyrol. Gwrecsam.
  11. "Internet Archive: Digital Library of Free & Borrowable Books, Movies, Music & Wayback Machine". archive.org. Cyrchwyd 2019-01-05.
  12. Cyfrol gyntaf Methodistiaeth Cymru ar Internet Archive
  13. Ail gyfrol Methodistiaeth Cymru ar Internet Archive
  14. Cyfrol 3 Methodistiaeth Cymru ar Internet Archive