John Howard Davies
| John Howard Davies | |
|---|---|
| Ganwyd | 9 Mawrth 1939 Paddington |
| Bu farw | 22 Awst 2011 o canser Blewbury |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | cyfarwyddwr teledu, cyfarwyddwr ffilm, actor ffilm, cynhyrchydd ffilm, actor teledu, cynhyrchydd teledu |
| Cyflogwr | |
| Tad | Jack Davies |
| Chwaraeon | |
| Gwlad chwaraeon | Cymru |
Cyfarwyddwr, cynhyrchydd a chyn-actor o Loegr oedd John Howard Davies (9 Mawrth 1939 – 22 Awst 2011).[1] Daeth yn enwog yn blentyn pan chwaraeodd y brif ran yn addasiad ffilm David Lean o Oliver Twist (1948). Ar ôl ymuno â'r BBC fel cynorthwyydd cynhyrchu ym 1966, daeth Davies yn gyfarwyddwr a chynhyrchydd teledu hynod ddylanwadol, gan arbenigo mewn comedi.
Chwaraeodd Davies ran allweddol mewn comedi teledu Prydeinig dros bedair degawd, gan weithio fel cynhyrchydd comisiynu, cynhyrchydd neu gyfarwyddwr ar nifer o sioeau comedi mwyaf llwyddiannus y cyfnod, gan gynnwys The World of Beachcomber, Steptoe and Son, All Gas and Gaiters, The Benny Hill Show, Monty Python's Flying Circus, The Goodies, Fawlty Towers, The Fall and Rise of Reginald Perrin, Not the Nine O'Clock News, Only Fools and Horses, Yes Minister, Blackadder a Mr. Bean.
Davies oedd cynhyrchydd pob un o bedair cyfres y comedi sefyllfa The Good Life, ac roedd hefyd yn gyfrifol am ddod â gyrfa deledu Benny Hill i ben ar ddiwedd yr 1980au.[2]
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd Davies ar 9 Mawrth 1939 yn Paddington, Llundain, yn fab i rieni o Gymru,[3] sef Jack Davies, beirniad ffilm ac awdur sgript toreithiog ar gyfer stiwdios Gainsborough ac Elstree yn bennaf, a'r nofelydd Dorothy Davies.[2]
Ar ôl addysg sylfaenol yn Ysgol Haileybury,[2] cafodd addysg bellach yn Grenoble, Ffrainc, ac yna gwasanaethodd yn y Llynges.[4]
Actor plentyn
[golygu | golygu cod]Yn adnabyddus i'w ffrindiau fel JHD, mae ei gredydau fel actor plentyn yn cynnwys y brif ran yng nghynhyrchiad David Lean o Oliver Twist (1948) pan oedd yn naw oed, ac yna The Rocking Horse Winner (1949), Tom Brown's Schooldays (1951) ac ychydig o benodau o'r gyfres deledu William Tell (1958).[5]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Ar ôl cael ei ryddhau o'r Llynges, gweithiodd Davies yn sector ariannol Dinas Llundain, cyn gweithio fel gwerthwr carpedi. Wedi hynny symudodd i Melbourne, Awstralia, lle dychwelodd i actio a chyfarfu â'i wraig gyntaf, Leonie, pan ymddangosodd y ddau mewn cynhyrchiad o The Sound of Music. Bu'n rheolwr llwyfan ar gyfer y cynhyrchiad am ddwy flynedd gan deithio Awstralia a Seland Newydd.[6]
Mae'n fwyaf adnabyddus am ei yrfa fel cyfarwyddwr a chynhyrchydd nifer o gomediau sefyllfa Prydeinig hynod lwyddiannus. Pan ddychwelodd i Loegr, daeth Davies yn gynorthwyydd cynhyrchu i'r BBC yn ystod 1966, a chafodd ei ddyrchafu'n gynhyrchydd ym 1968.[7] Yn ystod y cyfnod cynnar hwn, gweithiodd Davies ar sioeau sgets fel The World of Beachcomber (1968); cynhyrchodd a chyfarwyddodd bedair pennod gyntaf Monty Python's Flying Circus (1969) - yn ogystal ag amddiffyn y gyfres yn erbyn ei difrïwyr o fewn y BBC.
Cynhyrchodd yn ogystal dwy dymor gyntaf The Goodies (1970–72), gan gynnwys y bennod enwog "Kitten Kong", a enillodd wobr deledu Eurovision Silver Rose of Montreux. Cyfarwyddodd Davies yr Anthony Hopkins ifanc ym mhennod gyntaf y gyfres Biography, a gweithiodd hefyd ar All Gas and Gaiters (1969–70) a seithfed cyfres Steptoe and Son ym 1972.
Gadawodd y BBC am gyfnod byr i ddod yn rheolwr gyfarwyddwr EMI Television Productions ym 1973,[1] ond dychwelodd yn fuan i'r gorfforaeth.[7] Cynhyrchodd a chyfarwyddodd Davies gyfres gyntaf Fawlty Towers (1975). Syniad Davies oedd cynnig rhan Sybil Fawlty iPrunella Scales. Gwrthododd yr actores a cynigiwyd y rhan iddi yn wreiddiol. Mae hefyd yn cael y clod am y syniad o'r newidiadau doniol i'r llythrennau ar arwydd y gwesty ym mhob pennod, yn ogystal â'r ddyfais slapstic o gael Basil i daro Manuel ar y pen â llwy.[1]
Gwasanaethodd Davies hefyd fel cynhyrchydd ar gyfer The Good Life (1975–78).[8]
Ef oedd Pennaeth Comedi'r BBC o 1977 i 1982, cyn ymuno â Thames Television ym 1985. Roedd Thames yn gontractwr i sianel ITV bryd hynny, ac roedd Davies yn bennaeth Adloniant Ysgafn i'r cwmni o 1988.[6] Yn ystod y rôl olaf, cafodd ei ddyfynnu gan y wasg boblogaidd fel y dyn a ddiswyddodd y digrifwr Benny Hill pan benderfynodd y cwmni beidio ag adnewyddu ei gontract[2] yn dilyn cysylltiad a barodd am 20 mlynedd. Dywedodd wrth gofiannydd Hill, Mark Lewisohn, "Mae'n beryglus iawn cael sioe ar ITV nad yw'n apelio at fenywod, oherwydd nhw sy'n dal y llinynnau pwrs, mewn ystyr."[6]
Wedi hynny, cynhyrchodd Davies y gyfres No Job for a Lady (1990–1992), Mr. Bean (1990) a Hope It Rains (1991–1992), cyn dychwelyd i'r BBC yn ddiweddarach yn y 1990au.[9] Ei waith olaf oedd goruchwylior rhaglen arbennig y Pasg o'r gyfres The Vicar of Dibley ym 1996.
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Er ei fod wedi eni yn Llundain, dywedodd mewn cyfweliad fod ei deulu i gyd o ogledd Gymru. Cystadlodd dros Gymru ym myd chwaraeon.[3]
Roedd Davies yn saethwr targedau nodedig, gan gystadlu mewn disgyblaethau reiffl targed twll llawn a reiffl 300 metr. Ymddangosodd yn rownd derfynol Gwobr y Frenhines ym 1994, a cynrychiolodd Cymru ym Mhencampwriaethau Saethu cyntaf y Gymanwlad yn New Delhi, lle enillodd fedal arian yn y gystadleuaeth tîm tair safle reiffl 300 m.
Cystadlodd dros Gymru yng ngêm MacKinnon 16 gwaith, gan wasanaethu fel Capten y Tîm ym 1994 a 1995.[10]
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Bu farw Davies o ganser y prostad ar 22 Awst 2011 yn ei gartref yn Blewbury, Swydd Rydychen.[8][11] Yn dilyn ei farwolaeth, darlledwyd rhaglen ddogfen am ei fywyd ar BBC Two Wales.
Ffilmyddiaeth
[golygu | golygu cod]Ffilm
[golygu | golygu cod]| Blwyddyn | Teitl | Rhan | Cyf. |
|---|---|---|---|
| 1948 | Oliver Twist | Oliver Twist | [2] |
| 1949 | The Rocking Horse Winner | Paul Grahame | [2] |
| 1951 | Tom Brown's Schooldays | Tom Brown | [2] |
| The Magic Box | Maurice Freise-Greene | [2] |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 "Obituary: John Howard Davies". The Daily Telegraph. 23 Awst 2011.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 2.6 2.7 Sweet, Matthew (24 Awst 2011). "Obituary: John Howard Davies". The Guardian. London.
- ↑ 3.0 3.1 "BBC Two pays tribute to John Howard Davies" (yn Saesneg). 6 Ionawr 2012.
- ↑ "John Howard Davies". The Daily Telegraph. London. 24 Awst 2011. tt. 29 (Obituaries).
- ↑ ""JUNIOR ANGEL" AS FILM OLIVER TWIST". The Sunday Herald. Sydney. 30 Ionawr 1949. t. 5 Supplement: Magazine Section. Cyrchwyd 7 Gorffennaf 2012 – drwy National Library of Australia.
- ↑ 6.0 6.1 6.2 Gaughan, Gavin (25 Awst 2011). "Obituary: John Howard Davies". The Independent. London.
- ↑ 7.0 7.1 Oliver, John. "Davies, John Howard (1939–)". British Film Institute. Cyrchwyd 27 Tachwedd 2019.
- ↑ 8.0 8.1 (Saesneg) Webber, Christopher. "Davies, John Howard (1939–2011)". Oxford Dictionary of National Biography (arg. online). Gwasg Prifysgol Rhydychen.CS1 maint: ref=harv (link) (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)
- ↑ "Fawlty Towers producer John Howard Davies dies at 72". BBC News. 23 Awst 2011.
- ↑ Paul Grey (Spring 2012). Marchington, James. ed. "John Howard Davies" (yn en-gb). NRA Journal (National Rifle Association) XCI (1): 59. ISSN 0028-0070. https://nra.org.uk/wp-content/uploads/2017/04/2012spring.pdf. Adalwyd 2 Tachwedd 2023.
- ↑ "Comedy Producer John Howard Davies Dies". Variety. 23 Awst 2011. Cyrchwyd 22 Mai 2024.