John Griffith (peiriannydd)

Oddi ar Wicipedia
John Griffith
GanwydJohn Purser Griffith Edit this on Wikidata
5 Hydref 1848 Edit this on Wikidata
Caergybi Edit this on Wikidata
Bu farw21 Hydref 1938 Edit this on Wikidata
Dulyn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGweriniaeth Iwerddon, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Gwladwriaeth Rydd Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Sefydliad y Peiriannwyr Sifil Edit this on Wikidata
Galwedigaethpeiriannydd sifil, peiriannydd, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddSeneddwr Gwyddelig, Seneddwr Gwyddelig Edit this on Wikidata

Peiriannydd sifil a gwleidydd a aned yng Nghymru oedd Syr John Purser Griffith (5 Hydref 184821 Hydref 1938).

Roedd yn fab i'r gweinidog William Griffith (1801–1881). Addysgwyd John Griffith yng Ngholeg y Drindod, Dulyn, ac enillodd drwydded mewn peirianneg sifil ym 1868.[1] Gwnaeth brentisiaeth dwy flynedd o dan Dr Bindon Blood Stoney, Prif Beiriannydd Porthladd Dulyn, cyn gweithio fel cynorthwy-ydd i'r syrfëwr sir yn Swydd Antrim. Dychwelodd i Ddulyn yn 1871 at ei hen feistr Dr. Stoney i weithio fel cynorthwy-ydd, gan ddod yn Brif Beiriannydd ym 1898. Ymddeolodd ym 1913.

Bu'n gwasanaethu fel llywydd Sefydliad y Peirianwyr Sifil yn Iwerddon rhwng 1887 a 1889[2] ac yn  Sefydliad y Peirianwyr Sifil rhwng 1919 a 1920.[3] Cafodd ei ethol yn Gomisiynydd Goleuadau Iwerddon yn 1913, a bu'n aelod o'r Comisiwn Brenhinol ar Gamlesi a Dyfrffyrdd rhwng 1906 a 1911.

Yn 1922 etholwyd ef yn aelod o'r Seanad Éireann, senedd Gwladwriaeth Rydd Iwerddon, hyd nes iddo gael ei ddiddymu ym 1936.[4]

Bu farw yng Nghastell Rathmines yn Nulyn ar 21 Hydref 1938.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Cofiant Royal Dublin Society". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-11-19. Cyrchwyd 2017-11-27.
  2. "ICEI past presidents". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-11-19. Cyrchwyd 2017-11-27.
  3. Garth Watson, The Civils (Llundain: Thomas Telford, 1988), tud. 252
  4. "John Purser Griffith". Oireachtas Members Database. Cyrchwyd 16 Ionawr 2016.