John Ellis (clerigwr)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
John Ellis
Ganwyd 1598 Edit this on Wikidata
Maentwrog Edit this on Wikidata
Bu farw 1665 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth clerig, awdur Edit this on Wikidata

Clerigwr ac awdur o Gymru oedd John Ellis (1598 - 1665). [1]

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd John Elis yng Ngwylan, Maentwrog yn blentyn i Elis Siôn a Lowri ferch Ieuan, ei wraig. Cafodd ei addysgu yng Ngholeg Hart Hall, Rhydychen gan raddio BA ym 1622 ac MA ym 1625. Daeth yn Gymrawd Coleg yr Iesu, Rhydychen ym 1628. Graddiodd BD Rhydychen ym 1632 a DD Prifysgol St Andrews 1634, ymgorfforwyd ei radd DD yn Rhydychen ym 1634 a Chaergrawnt ym 1635. [2]

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafodd John Elis ei ordeinio'n ddiacon yn Eglwys Loegr ym 1621 ac yn offeiriad ym 1622 tra ei fod yn fyfyriwr. Cafodd ei fywoliaeth gyntaf fel Rheithor Wheatfield, Swydd Rydychen ym 1629. Ym 1646 daeth yn rheithor Chinnor, Swydd Rydychen. Yn yr un flwyddyn daeth yn Rheithor Dolgellau a Thywyn Meirionnydd a phrebend Y Faenol, gan ei wneud y gweinidog efo'r cyflog mwyaf yng Nghymru [3]

Ym 1650 penodwyd John Elis yn un o'r 25 trwyddedwr o dan Y Ddeddf er Gwell Taeniad yr Efengyl yng Nghymru (1650). Yn rhinwedd y swydd galwodd ym 1657 galwodd am sefydlu Prifysgol Genedlaethol yng Nghymru, ond cafwyd ddim ymateb i'r alwad.

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Bellum in idumaeos (1641) - sylwebaeth ar benodau 1-21 o Lyfr Obadeia yn yr Hen Destament
  • Clavis fidei (1642) – esboniad ar Gredo'r Apostolion, yn seiliedig ar ddarlithoedd yr oedd wedi'u traddodi i fyfyrwyr Hart Hall
  • Defensio fidei (1660) – amddiffyniad o 39 Erthygl Eglwys Loegr

Teulu[golygu | golygu cod y dudalen]

Priododd Rebekah, merch John Petty o Stoke Talmage ar 24 Awst 1631. Does dim cofnod eu bod wedi cael plant.

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu farw rhywbryd rhwng 4 Rhagfyr 1665 pan ysgrifennodd ei ewyllys a 11 Rhagfyr 1665 pan wnaed rhestr o'i eiddo i rannu yn ôl gofynion ei ewyllys. Yn yr ewyllys mae'n gofyn cael ei gladdu ym mynwent eglwys Dolgellau, ond does dim cofnod i ddweud os gwireddwyd ei ddymuniad neu beidio. Gadawodd yr incwm o annedd o'r enw Penrhyn ym mhlwyf Llanaber er mwyn sefydlu ysgol ramadeg i fechgyn yn Nolgellau. [4] Daeth yr ysgol yn Ysgol y Gader ym 1962 ac Ysgol Bro Idris yn 2017. [5]

Carreg ar safle gwreiddiol Ysgol Ramadeg Dolgellau

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "ELLIS, JOHN (?- 1665), offeiriad a Phiwritan llygoer | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-01-28.
  2. "Ellis, John (1598/9–1665), Church of England clergyman and religious writer | Oxford Dictionary of National Biography". www.oxforddnb.com. Cyrchwyd 2020-01-28.
  3. Richards, Thomas; Religious Developments in Wales (1654-1662); tudalen 143. Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol, Llundain 1923
  4. "Gwynedd Archaeological Trust - Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd". www.heneb.co.uk. Cyrchwyd 2020-01-28.
  5. "Ysgol Bro Idris | Estyn". www.estyn.llyw.cymru. Cyrchwyd 2020-01-28.