John Edward Madocks (AS Dinbych)

Oddi ar Wicipedia
John Edward Madocks
Cofeb John Madocks a'i deulu, Eglwys yr Holl Seintiau, Gresffordd
Ganwyd22 Gorffennaf 1786 Edit this on Wikidata
Bu farw20 Tachwedd 1837 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 11eg Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
PlantEmily Charlotte Madocks Edit this on Wikidata

Roedd John Edward Madocks (22 Gorffennaf 178620 Tachwedd 1837) yn dirfeddiannwr ac yn wleidydd Rhyddfrydol Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Dinbych rhwng 1832 a 1835[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Roedd Madocks yn unig fab i John Edward Madocks, North Cray, Swydd Caint a Fron Yw, Llandegfan a Frances merch Syr Richard Perryn, Barwn y Trysorlys. Roedd yn gefnder i William Alexander Madocks AS Boston a Chippenham a sylfaenydd Porthmadog.

Cafodd ei addysgu yn Ysgol Harrow ac Eglwys Crist, Rhydychen. Un o'i gyd ddisgyblion yn Harrow oedd y bardd Seisnig Yr Arglwydd Byron. Mewn llythyr I Thomas Moore dyddiedig 20 Mai 1820 mae Byron yn adrodd hanes diwrnod wariodd yng nghwmni Madocks yn gwylio crogi John Bellingham am lofruddio'r Prif Weinidog Spencer Perceval[2].

Ym 1817 priododd Sidney merch Abraham Robarts AS Caerwrangon, bu iddynt 5 merch a 2 fab.

Gwasanaeth cyhoeddus[golygu | golygu cod]

Gwasanaethodd fel Uchel Siryf Sir Ddinbych ym 1821.

Cafodd ei ethol fel AS Ryddfrydol etholaeth Bwrdeistrefi Dinbych yn etholiad cyffredinol 1832 ond collodd y sedd i'r Ceidwadwyr yn etholiad 1835 a bu farw dwy flynedd yn ddiweddarach.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw Madocks yn ei gartref, Glan y Wern, Llanddegfan yn 51 mlwydd oed, rhoddwyd ei weddillion i orwedd yn eglwys y Gresffordd. Mae plac coffa iddo ef, Sidney ei wraig, a'r Cyrnol John Edward Madocks, ei fab hynaf, ar un o waliau mewnol yr eglwys.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Robert Myddelton-Biddulph
Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Dinbych
18321835
Olynydd:
Wilson Jones