John Dwnn

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o John Donne (diplomydd))
John Dwnn
Ganwyd1430 Edit this on Wikidata
Bu farwIonawr 1503, 1469 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethdiplomydd, gwleidydd Edit this on Wikidata
TadGwyffd ap Dwn Edit this on Wikidata
MamJoan Scudamore Edit this on Wikidata
PriodElizabeth Hastinges Edit this on Wikidata
PlantAnn Dun, Margaret Dun, Sir Griffith Dwnn Edit this on Wikidata
Syr John Dwnn, yn y Triptych Donne gan Hans Memling, 1470au

Roedd Syr John Dwnn (neu Donne yn Saesneg; c.1420au – Ionawr 1503) yn llyswr ac yn ddiplomydd o Gymru.[1] Roedd yn aelod o'r teulu Dwnn o Gydweli.

Mae Dwnn yn enwog am iddo gomisiynu'r triptych a baentiwyd gan Hans Memmling yn Bruges.[2] Roedd yn gefnogwr i Edward IV, brenin Lloegr, yn ystod y Rhyfeloedd y Rhosynnau. Wedyn, roedd yn ddiplomydd yn y Gwledydd Isel. Efallai ei fod yn bresennol ym mhriodas Charles le Téméraire, Dug Bwrgwyn, ym 1468.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. National Gallery of Great Britain Staff; Lorne Campbell (1998). The Fifteenth Century Netherlandish Schools (yn Saesneg). National Gallery Publications. t. 383. ISBN 978-1-85709-171-7.
  2. Peter Lord (2003). Medieval Vision. University of Wales Press. tt. 256–258. ISBN 978-0-7083-1801-0.
  3. Pierre Courthion (1983). Dutch and Flemish Painting (yn Saesneg). Chartwell Books. t. 36. ISBN 978-0-89009-906-3.