John Cunliffe (awdur)

Oddi ar Wicipedia
John Cunliffe
Ganwyd16 Mehefin 1933 Edit this on Wikidata
Colne Edit this on Wikidata
Bu farw20 Medi 2018 Edit this on Wikidata
Ilkley Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, awdur plant Edit this on Wikidata
Adnabyddus amPostman Pat Edit this on Wikidata
PriodSylvia Thompson Edit this on Wikidata

Awdur llyfrau plant a chyflwynydd teledu o Sais oedd John Arthur Cunliffe (16 Mehefin 193320 Medi 2018) a greodd y cymeriadau Postman Pat a Rosie a Jim.[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganwyd Cunliffe yn Colne, swydd Gaerhirfryn, yn unig blentyn i Nelly ac Arthur Cunliffe. Cerddodd ei dad allan ar y teulu pan oedd John yn fabi; ddim i'w weld na'i glywed fyth eto. Cyflwynodd ei hen-ewythr Herbert ef i weithiau llenyddol Charles Dickens a William Shakespeare, a gadawodd John i ddefnyddio'r microsgop roedd yn cadw yn ei ystafell ffrynt. Roedd John yn blentyn tal am ei oedran, a chafodd ei fwlio yn yr ysgol oherwydd hyn. Mynychodd Ysgol Ramadeg Colne, ac aeth i fyw yn ddiweddarach yn Kendal, Westmorland; trefi a phentrefi bach yr ardal honno fyddai'n ysbrydoliaeth ar gyfer ei gymeriad mwyaf enwog, Postman Pat. Seiliwyd 'Greendale', lle mae'r cymeriad a'r gyfres wedi ei gosod, ar ddyffryn Longsleddale, ger Kendal.[2] Gweithiodd Cunliffe am flynyddoedd lawer fel llyfrgellydd, a hefyd fel athro yn Ysgol Gynradd Castle Park. Rhoddodd y gorau i addysgu ym 1988 er mwyn ysgrifennu penodau ar gyfer cyfres newydd o Postman Pat.

Comisiynwyd Cunliffe gan y BBC i ysgrifennu Postman Pat, a gafodd ei gynhyrchu gan Ivor Wood, a ddarlledwyd gyntaf ym 1981. Creodd Pat a Greendale fel pentref delfrydol lle'r oedd pawb yn neis i'w gilydd, yn wahanol i'r bwlio roedd wedi dioddef wrth dyfu fyny. Yn dilyn llwyddiant Postman Pat, daeth Cunliffe yn adnabyddus iawn yn lleol, gydag ystafell wedi ei neilltuo iddo yn Amgueddfa Lakeland Life yn Kendal.[3][4]

Cyfieithwyd nifer o lyfrau Postman Pat i'r Gymraeg gan Wasg y Dref Wen a chynhyrchwyd fideos wedi ei trosleisio i'r Gymraeg gan gwmni Sain.

Yn y 1990au, creodd Cunliffe gyfres teledu adnabyddus arall, Rosie a Jim. Sgriptiodd a chyflwynodd y 50 pennod gyntaf, yna troi rhai ohonynt mewn llyfrau. Roedd Cunliffe wedi ei siomi gan ychydig o'r nwyddau a llyfrau cysylltiedig ar gyfer Postman Pat, a doedd ganddo ddim rheolaeth drosto. Felly ei fwriad wrth greu cyfres Rosie a Jim oedd glynu yn agosach i'w ddelfryd.

Yn 2010, rhyddhaodd "Ghosts", stori i blant ar gyfer yr iPad. Roedd yn noddwr Gŵyl Lenyddiaeth Ilkley.Bu farw Cunliffe o fethiant y galon ar 20 Medi 2018[5][6] a chyhoeddwyd ei farwolaeth ei gyhoeddi gyntaf yn y papur newydd lleol, yr Ilkley Gazette, a ddywedodd ei fod "wedi gadael ei gartref yn Ilkley mewn llifeiriant o law [...] byth i ddychwelyd".

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Postman Pat's creator looks back at its conception". BBC News. Cyrchwyd 1 March 2016.
  2. "John Cunliffe, creator of 'Postman Pat' and 'Rosie and Jim' – obituary". The Daily Telegraph. 27 September 2018. Cyrchwyd 27 September 2018.
  3. "Cumbria on film". BBC News. 30 March 2006. Cyrchwyd 27 September 2018.
  4. "Postman Pat creator John Cunliffe dies". The Guardian. 27 September 2018. Cyrchwyd 27 September 2018.
  5. "Postman Pat and Rosie and Jim author John Cunliffe dies". BBC. Cyrchwyd 27 September 2018.
  6. Stolworthy, Jacob (27 September 2018). "John Cunliffe dead: Postman Pat, Rosie and Jim creator dies age 85". Independent. Cyrchwyd 27 September 2018.