John Cedric Griffiths
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
John Cedric Griffiths | |
---|---|
Ganwyd | 1912 ![]() Llanelli ![]() |
Bu farw | 2 Mehefin 1992 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | daearegwr ![]() |
Daearegydd a arbenigai mewn petroliwm oedd John Cedric Griffiths (ganwyd yn Llanelli yn 1912 - 2 Mehefin 1992) a'r cyntaf i dderbyn Medal Krumbein am ei waith. Enwyd gwobr ar ei ôl: Gwobr Addysgu John Cedric Griffiths.[1]
Coleg[golygu | golygu cod y dudalen]
Graddiodd mewn BSc yn 1933, MSc yn 1934 a PhD yn 1937 o Brifysgol Cymru. Yn 1940 derbyniodd ddiploma gan Goleg Imperial Llundain a PhD mewn petrograffiaeth gan Prifysgol Llundain (UCL).
Gweithiodd am saith mlynedd i Trinidad Leaseholds Ltd yn y Caribî ac yna ymunodd ar staff Prifysgol Talaith Pennsylvania ble'r arhosodd nes iddo ymddeol yn 1977. Cafodd ddylanwad mawr ar lawer o'i fyfyrwyr.
Bu farw ar 2 Mehefin 1992 yn y coleg ym Mhennsylvania. Roedd wedi cyhoeddi dros 100 o bapurau academaidd.