John Cambrian Rowland

Oddi ar Wicipedia
John Cambrian Rowland
Ganwyd7 Rhagfyr 1819 Edit this on Wikidata
Lledrod Edit this on Wikidata
Bu farw1890 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaetharlunydd Edit this on Wikidata
Bellringer of Caernarvon in costume of trade gan John Cambrian Rowland

Arlunydd oedd John Cambrian Rowland (7 Rhagfyr 18191890). Ganwyd yn Lledrod, Ceredigion yn fab i Thomas Rowlands.

Mae'n debyg taw ef oedd yr artist proffesiynol cyntaf i fyw yn Aberystwyth.

Yr enghraifft cynharaf o'i waith sydd ar gael i'w amlinelliad o John Williams (Shon Sgubor) a greodd yn 1839, ac a gyhoeddwyd yn Cymru, cyfrol 15 (1898), t.113. Mae portread arall ganddo o'r Parch John Hughes, wedi ei gadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Cofir yn bennaf am John Cambrian Rowland am ei bortreadau o wisgoedd Cymreig - cyhoeddwyd nifer o'r rhain ganddo yn 1848. Daeth rhain yn ddelweddau amlwg sy'n cyfleu bywyd Cymru yn y 19g. Mae cynnwys ei ddarluniau'n awgrymu iddo ymsefydlu yng ngogledd Cymru, ac mae awgrym mewn un bywgraffiad iddo gael ei benodi'n hyfforddwr celf Coleg Hyfforddi Eglwys Caernarfon.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Paul Joyner, Artists in Wales c.1740-c.1851, t. 110

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]