John Cadvan Davies
Gwedd
| John Cadvan Davies | |
|---|---|
Cadvan, tua 1885 | |
| Ffugenw | Cadvan |
| Ganwyd | 1 Hydref 1846 Llangadfan |
| Bu farw | 12 Hydref 1923 |
| Galwedigaeth | bardd |
- Mae "Cadvan" yn ailgyfeirio i'r dudalen hon. Gweler hefyd Cadfan.
Bardd, emynydd a beirniad eisteddfodol oedd John Cadvan Davies (1 Hydref 1846 - 12 Hydref 1923). Defnyddiai'r enw barddol Cadvan (sic).
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Cafodd ei eni yn Llangadfan, Maldwyn (Powys) yn 1846. Daeth yn weinidog gyda'r Methodistiaid. Bu'n ffigwr amlwg ym myd yr Eisteddfod Genedlaethol ar ddiwedd y 19g ac yn chwarter cyntaf y ganrif olynol. Urddwyd Cadvan yn archdderwydd yn 1923, y flwyddyn y bu farw.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Caneuon Cadvan (4 cyfrol: 1878, 1883, 1893, 1894)
- Dydd Coroniad (1894)
- 'Atgof a Phrofiad', yn Yr Eurgrawn (1917). Hunangofiant.