John Beag Ó Flatharta

Oddi ar Wicipedia

John Beag Ó Flatharta yw canwr gwlad Gwyddeleg a darlledydd o Leitir Mealláin (Lettermullen) yn Conamara, Gorllewin Iwerddon. Dechreuodd canu hwyr yn y 1970au. Ers 1980 gyda'i fand, Na hAncairí (Yr Angorau) datblygodd gymysgedd o ganu gwlad a sean-nós, hynny yw math o ganu gwerin traddodiadol heb offerynnau.

Mae ei ganeuon yn dilyn themâu o alltudiaeth, ymddieithriad a chariad, a chaneuon am y môr, themâu sy'n elfennol i bob cymuned yng Nghonamara. Chwaraeodd John Chóil Bhreathnaigh acordion ar ei record hir gyntaf ‘Faoi Lán tSeoil’, ond defnyddiodd John Beag gymysgedd o gantorion eraill ar weddill ei recordiau.

Ar ôl priodi Ann Hargraves, symudodd y ddau i fyw yn yr Unol Daleithiau, ond bu farw hi yn ifanc, gan adael ef â mab ifanc, Liam. Dychwelodd John Beag a Liam yn ôl i Iwerddon yn 2007. Recordiau eraill ddilynodd, tra oedd John Beag yn gweithio i RTÉ Raidió na Gaeltachta.

Ei ganeuon mwyaf poblogaidd yw ‘Amhran Chuigeil’ (Cân cogail, sy'n sôn am rasio cychod Galway hookers ar y record Faoi lán tSeoil), ‘The Nazarene Song’ ysgrifennwyd gan Eddie O Conghaile am dywydd drwg ar y môr, a ‘Amhrán Mhaínis’ (Cân Mweenish, galarnad traddodiadol).

Rhestr o recordiau[golygu | golygu cod]

Blwyddyn Enw Label Ffurf Iaith
? (ailgyhoeddwyd yn 2018) Faoi lán tSeoil Trad Ireland CD, caset Gwyddeleg, Saesneg
1990 Fiche Amhrán 1980-1990 Cló Iar-Chonnacht Caset Gwyddeleg, Saesneg
1990 Ar Bord Leis na hAncairí Cló Iar-Chonnacht Caset Gwyddeleg, Saesneg
1992 An Lochán Cló Iar-Chonnacht Caset Gwyddeleg, Saesneg
1993 Tá an Workhouse lán Cló Iar-Chonnacht CD, caset, lawrlwyth digidol Gwyddeleg, Saesneg
1994 The Winds of Freedom Cló Iar-Chonnacht Lawrlwyth digidol, CD Gwyddeleg, Saesneg
2010 Coinnigh léi a sheáin John Beag Ó Flatharta CD Gwyddeleg, Saesneg
2012 Amigo mo mhéit John Beag Ó Flatharta Lawrlwyth digidol Gwyddeleg, Saesneg
2017 The Banks of Casheen Bay John Beag Ó Flatharta CD Gwyddeleg, Saesneg
2020 Roots n’ Raithneach John Beag Ó Flatharta CD Gwyddeleg, Saesneg