John Aloysius Ward

Oddi ar Wicipedia
John Aloysius Ward
Ganwyd24 Ionawr 1929 Edit this on Wikidata
Leeds Edit this on Wikidata
Bu farw27 Mawrth 2007 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prior Park College Edit this on Wikidata
Galwedigaethoffeiriad Catholig, esgob Catholig Edit this on Wikidata
SwyddRoman Catholic Archbishop of Cardiff, Esgob Mynyw Edit this on Wikidata

Offeiriad yn yr Eglwys Gatholig Rufeinig oedd y Gwir Barchedig John Aloysius Ward (24 Ionawr 1929 - 27 Mawrth 2007). Fe'i ordeiniwyd yn Esgob Mynyw yn 1981, ac yn Archesgob Caerdydd yn 1983. Treuliodd ei flynyddoedd olaf yn yr offeiriadaeth dan gysgod camdrin rhywiol gan offeiriaid yn ei ofal, ac ymddeolodd yn 2001.

Ganed Ward yn Leeds, Lloegr, ond ystyriai ei hun yn Gymro. Fe'i magwyd yn Wrecsam, lle bu'n fachgen allor yn Eglwys Santes Fair. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, mynychodd goleg Prior Park yng Nghaerfaddon, un o golegau'r Brodyr Cristnogol. Yn 1946, ymunodd ag Urdd Gapusaidd y Brodyr Lleiaf ym Mhantasaph, ger Penarlâg, Sir y Fflint.

Ordeiniwyd ef gan Esgob Southwark, Cyril Cowderoy, yn Our Lady of Seven Dolours yn Peckham ar 7 Mehefin 1953. Gweithiodd yn ne a chanolbarth Cymru rhwng 1954 a 1960, gan ddefnyddio ei Gymraeg rhugl ar ei daith cenhadaeth. Daeth yn offeiriad plwyf Peckham yn 1960. Ef oedd Gweinidog Ardalol Capusiaid Prydain Fawr yn 1969, a daeth yn ymgynghorydd ethol Tad Cyffredin Urdd y Capusiaid yn Rhufain yn 1970.

Urddwyd Ward yn Esgob cynghorol Esgob Mynyw ar 25 Gorffennaf 1980, yng ngogledd a gorllewin Cymru, a chysegrwyd ef ar 1 Hydref 1980. Dilynodd Langton Fox fel esgob ar 5 Chwefror 1981. Fe'i urddwyd yn Esgob Caerdydd ar 25 Mawrth 1983. Adeiladodd ar waith ei ragflaenydd, yr Archesgob John Murphy, wrth ehangu'r Eglwys Gatholig yng Nghymru.

Taflwyd cysgod dros flynyddoedd olaf ei weinyddiaeth gan cam-drin rhywiol gan offeiriaid o dan ei ofalaeth. Yn 1998, carcharwyd y Tad John Lloyd, offeiriad plwyf ac ysgrifennydd y wasg ar gyfer Ward, am sawl trosedd rhywiol yn erbyn plant. Ysgrifennodd nifer o rieni lythyron at Ward yn cwyno am ymddygiad Lloyd; yn ôl pob sôn pasiodd y llythyrau hynny ymlaen at Lloyd. Yn 1999, diffrogwyd Lloyd gan y Pab. Yn ddiweddarach yn 1999, cyhuddwyd Ward o drais yn erbyn dynes gyda chroes ar allor eglwys ei blwyf yn y 1960au. Arestiwyd ef, ond ni gyhuddwyd ef yn swyddogol. Ymddangosodd y cyhuddiadau yn y wasg, a gwnaeth Ward sawl datganiad brwd o'i ddieuogrwydd, gan honni fod y cyhuddiadau yn gwbl anghywir.

Yn Hydref 2000, carcharwyd y Tad Joseph Jordan am ymosodiadau rhywiol yn erbyn bechgyn, ac am lawrlwytho pornograffi plant oddi ar y We. Ordeiniwyd Jordan gan Ward yn 1998, er iddo gael ei rybuddio ynglŷn ag ymddygiad Jordan gan Esgob Plymouth, Christopher Budd, a arweiniasai Lloyd yn ystod ei addysg cynnar i ymuno â'r offeiriadaeth Gatholig. Cyhuddodd ymchwiliad rhaglen deledu y BBC, Panorama Ward o fethu ymdopi â'i dyletswyddau, a rhoddwyd pwysau arno i ymddeol.

Dioddefodd strôc a thrombosis gwythïen dwfn yn Nhachwedd 2000, ac ymneilltuodd o'i waith dros dro, gydag Esgob Wrecsam Edwin Regan yn dirprwyo yn ei le. Amddiffynnodd The Catholic Herald Ward, ond galwodd The Tablet am ei ymddeoliad. Wedi cyfnod o wella, datganodd ei fod yn barod i ddychwelyd i'w waith. Cyfwelodd Pab Ioan Pawl II Ward, ac ymddeolodd yn fuan wedyn ar 26 Hydref 2001. Cymerodd Peter Smith ei le fel Archesgob.

Ymddeolodd ward i fyw mewn byngalo, lle dangosai ei arfbais esgobaethol uwchben y porth.

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  • [1], The Times, [8 Mawrth [007
  • [2], The Guardian, 28 Mawrth 2007
  • [3][dolen marw], The Daily Telegraph, 29 Mawrth 2007

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]