Johannes Hevelius
Gwedd
Johannes Hevelius | |
---|---|
Ganwyd | Jan Heweliusz ![]() 28 Ionawr 1611 ![]() Gdańsk ![]() |
Bu farw | 28 Ionawr 1687 ![]() Gdańsk ![]() |
Dinasyddiaeth | Y Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | seryddwr, entrepreneur, mapiwr, bragwr ![]() |
Swydd | henadur ![]() |
Adnabyddus am | Prodromus Cometicus, Cometographia, Selenographia, sive Lunae descriptio, Uranographia, Prodromus Astronomiae ![]() |
Priod | Elisabeth Hevelius ![]() |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol ![]() |
Seryddwr o Gdańsk (Danzig yn y Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd bryd hynny) oedd Johannes Hevelius (28 Ionawr 1611 – 28 Ionawr 1687). Gwnaeth lawer o arsylwadau pwysig, yn enwedig ynghylch y lleuad. Disgrifiodd ddeg cytser newydd, saith ohonynt yn dal i gael eu defnyddio gan seryddwyr.[1]
Ar hyd ei oes, cymerodd Hevelius ran flaenllaw mewn gweinyddiaeth ddinesig, gan ddod yn gynghorydd tref yn 1651; ond o 1639 ymlaen, seryddiaeth oedd ei brif ddiddordeb. Yn 1641 adeiladodd arsyllfa fawr ar doeau ei dri thŷ cysylltiedig, gan roi offer gwych iddi, gan gynnwys telesgop 148 troedfed (45 m) o hyd. Dinistriwyd ei arsyllfa, ei offerynnau a'i lyfrau gan dân yn 1679.
Cyhoeddiadau
[golygu | golygu cod]- Selenographia, sive Lunae descriptio (1647)
- De nativa Saturni facie ejusque varis Phasibus (1656)
- Historiola Mirae (1662)
- Mercurius in Sole visus Gedani (1662)
- Prodromus cometicus (1665)
- Cometographia (1668)
- Machina coelestis (1673, 1679)
- Annus climactericus (1685)
- Prodromus Astronomiae, gwaith anorffenedig a gyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth gan ei wraig Elisabeth mewn tri llyfr:
- Prodromus
- Catalogus Stellarum Fixarum (1687)
- Firmamentum Sobiescianum sive Uranographia (1687)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "The Star Catalogue and Atlas of Johannes Hevelius", Ian Ridpath's Star Tales; adalwyd 22 Mawrth 2025
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Telesgop mawr Hevelius (1673)
-
Hevelius a'i wraig Elisabeth yn gwneud arsylwadau â secstant mawr