Johann Heinrich Füssli

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Johann Heinrich Füssli
Henry fuseli por James Northcote 1778.jpg
Ganwyd 7 Chwefror 1741 Edit this on Wikidata
Zürich Edit this on Wikidata
Bu farw 17 Ebrill 1825, 16 Ebrill 1825, 1825 Edit this on Wikidata (84 oed)
Putney Edit this on Wikidata
Galwedigaeth arlunydd, bardd, drafftsmon, darlunydd Edit this on Wikidata
Gwaith nodedig Titania and Bottom, Percival Delivering Belisane from the Enchantment of Urma, The Nightmare Edit this on Wikidata
Arddull portread (paentiad) Edit this on Wikidata
Tad Johann Caspar Füssli Edit this on Wikidata
Teulu Anna Füssli, Hans Rudolf Füssli, Johann Kaspar Füssli Edit this on Wikidata
The artist in conversation with Johann Jakob Bodmer, 1778-1781.

Arlunydd ac awdur ar gelf o'r Swistir oedd Johann Heinrich Füssli (7 Chwefror 174117 Ebrill 1825), a ymsefydlodd yn Lloegr lle daeth yn adnabyddus wrth yr enw Henry Fuseli, enw a fabwysiadodd tra'n gweithio yn yr Eidal yn y 1770au. Roedd yn frodor o Zürich.

Ganed Füssli yn Zurich yn 1741 yn fab i'r peintiwr portreadau Johann Caspar Füssli (1706-1782). Ganed ei frawd Johann Kaspar (1743-1786) ddwy flynedd yn ddiweddarach a daeth yn entomolegydd adnabyddus.

Nodweddir peintiadau a darluniau Füssli gan arddull dyrchafol, delfrydol, a ysbrydolwyd gan waith Michelangelo ac eraill. Prif destunau ei waith yw digwyddiadau mawr mewn hanes a themau mytholegol, yn enwedig o fytholeg yr Henfyd.

Yn Lloegr daeth Füssli yn ffigwr dylanwadol iawn ym myd celf. Yn 1799 cafodd ei apwyntio yn athro arlunio yn yr Academi Frenhinol, Llundain, ac yn geidwad yn 1804. Ymhlith ei ddisgyblion yn yr Academi roedd John Constable (1776-1837), Benjamin Robert Haydon (1786-1846), William Etty (1787-1849), Edwin Landseer (1802-73), a'r Cymro Penry Williams (1880-1885).

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: