Joan o'r Tŵr
Gwedd
| Joan o'r Tŵr | |
|---|---|
![]() | |
| Ganwyd | 5 Gorffennaf 1321 Tŵr Llundain |
| Bu farw | 7 Medi 1362 Hertford Castle |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | cymar |
| Tad | Edward II, brenin Lloegr |
| Mam | Isabelle o Ffrainc |
| Priod | Dafydd II |
| Llinach | Llinach y Plantagenet |
Brenhines yr Alban rhwng 1329 a 1362 oedd Joanna neu Joan y Tŵr (5 Gorffennaf 1321 – 7 Medi 1362). Roedd hi'n wraig gyntaf Dafydd II, brenin yr Alban.
Fe'i ganwyd yn Nhŵr Llundain, yn ferch Edward II, brenin Lloegr, a'i wraig Isabella o Ffrainc.[1]
Yn unol â Chytundeb Northampton, priododd Joan ar 17 Gorffennaf 1328 â Dafydd, mab ac etifedd Robert I, brenin yr Alban, yn Berwick-upon-Tweed.[2] Roedd hi'n saith oed ac roedd ei gwr yn bedair oed ar adeg eu priodas.[3] Parhaodd eu priodas am 34 mlynedd. [4]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ James Panton (2011). Historical Dictionary of the British Monarchy (yn Saesneg). Scarecrow Press. t. 281. ISBN 978-0810857797.
- ↑ Marshall, (2003), 36
- ↑ Castor (2011), 313
- ↑ Mike Ashley (1999). The Mammoth Book of British Kings and Queens (yn Saesneg). Robinson. t. 551. ISBN 1-84119-096-9.
