Jiwcbocs

Oddi ar Wicipedia
Jiwcbocs Rock-Ola o 1960.

Peiriant sydd yn derbyn arian i chwarae cerddoriaeth wedi ei recordio yw jiwcbocs[1] neu sgrechflwch.[2] Datblygodd y ddyfais hon o'r pianos peiriannol a oedd yn boblogaidd yn niwedd y 19g a dechrau'r 20g. Ymddangosodd y jiwcbocsys cyntaf yn Unol Daleithiau America yn y 1930au, a daethant yn boblogaidd wedi diwedd yr Ail Ryfel Byd fel modd i gwsmeriaid ddewis recordiau i'w chwarae mewn busnesau yfed a bwyta. Dodasai'r cwsmer ei ddarn arian yn y twll arian cyn pwyso botymau i ddewis y gân. Roedd golwg a dyluniad y ddyfais ei hun yn rhan bwysig o'i hapêl: byddai'r cwsmeriaid yn edmygu nodweddion megis pibelli crynion, colofnau tro i arddangos enwau'r caneuon, goleuadau lliwgar, a chipolwg ar fecanwaith y peiriant wrth iddo newid y recordiau. Buont yn gyffredin iawn mewn barrau a thafarnau, caffis, tai bwyta a siopau soda ar draws yr Unol Daleithiau, a nifer o wledydd eraill, hyd at ddiwedd y 1960au. Ymhlith y prif gwmnïau a gynhyrchai jiwcbocsys oedd Wurlitzer a Rock-Ola. Dechreuwyd cynhyrchu jiwcbocsys newydd yn niwedd yr 20g i chwarae crynoddisgiau yn hytrach na'r hen recordiau, ac fel symbol hiraethus o ddiwylliant poblogaidd y 1950au a'r 1960au.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  jiwcbocs. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 10 Mawrth 2021.
  2.  sgrechflwch. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 10 Mawrth 2021.
  3. Edward Miller, "Jukeboxes" yn Encyclopedia of Contemporary American Culture, golygwyd gan Gary W. McDonogh, Robert Gregg, a Cindy H. Wong (Llundain: Routledge, 2001), tt. 619–20.