Neidio i'r cynnwys

Jimmy Murphy

Oddi ar Wicipedia
Jimmy Murphy
GanwydJimmy Murphy
Manceinion
Galwedigaethdramodydd

Dramodydd o Iwerddon a'i waith wedi'i gyfieithu i'r Gymraeg ydy Jimmy Murphy (ganwyd 1962). Bu'n awdur preswyl yn NUI Maynooth (2000–01), yn aelod o Gyngor Ymgynghorol Anrhydeddus Theatr yr Abaty, fe dderbyniodd dair Bwrsariaeth mewn llenyddiaeth gan Gyngor y Celfyddydau/An Chomhairle Ealaíona ac fe'i hetholwyd yn aelod o Aosdána yn 2004 ac i'w gorff llywodraethu An Toscaireacht yn 2025. Cafodd ei ddrama Brodyr y Brwsh ei chyflwyno gan Theatr Bara Caws ym 1997, wedi'i gyfiethu gan Tony Llewelyn.

Ganwyd Jimmy Murphy ym 1962 i rieni o Wyddelod ym Manceinion, Lloegr. Pan oedd yn chwech oed, dychwelodd ei deulu i Ddulyn.[1]

Gwaith

[golygu | golygu cod]
  • Brothers of the Brush (Dulyn, The Peacock, 1993)
  • A Picture of Paradise (The Peacock, 1996)
  • Aceldama (Black Box Theatre, Dulyn, 1998)
  • The Muesli Belt (Dulyn, Theatr yr Abaty, 2000)
  • The Kings of the Kilburn High Road (Waterford, Red Kettle Theatre Company, 2000)
  • The Castlecomer Jukebox (Waterford, Red Kettle Theatre 2004)
  • What's Left of The Flag (Theatre Upstairs @ The Plough 2010)
  • The Hen Night Epiphany (Focus Theatre 2011)
  • Perfidia (Theatre Upstairs @ Lanigan's 2012)
  • Of This Brave Time (Peacock Theatre, 2016)
  • The Kiss (Theatre Upstairs, 2015)
  • A Whisper Anywhere Else (Peacock Theatre, 2017)
  • Idlewild (Smock Alley Theatre, 2018)
  • The Seamster’s Daughter (Smock Alley Theatre, 2019)
  • The Meadow (Theatr yr Abaty, 2020)
  • Voices From The Bloodied Field/Joe Traynor (Theatr yr Abaty, 2020)
  • The Cartographer's Pen (Ramor Theatre, 2022)[2]
  • The Chief (Decadent Theatre, 2022)

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Jimmy Murphy". Literary Encyclopedia. 18 April 2008. Archived from the original on 7 October 2012. Retrieved 14 June 2026.
  2. "Jimmy Murphy on his new border play". RTE.ie (yn Saesneg). 3 Mai 2022. Cyrchwyd 14 Mehefin 2026.