Jimmy Cliff
| Jimmy Cliff | |
|---|---|
| Ganwyd | James Chambers 30 Gorffennaf 1944 Saint James Parish, West Kingston |
| Bu farw | 24 Tachwedd 2025 o niwmonia Kingston |
| Man preswyl | Saint James Parish, Kingston |
| Label recordio | Trojan Records, Columbia Records, Island Records, EMI Records, Parlophone Records |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | canwr, cerddor, cyfansoddwr caneuon, artist recordio, cyfansoddwr, cynhyrchydd recordiau |
| Adnabyddus am | Many Rivers to Cross, The Harder They Come, Reggae Night |
| Arddull | reggae, Ska |
| Plant | Nabiyah Be |
| Gwobr/au | Grammy Award for Best Reggae Album, Grammy Award for Best Reggae Album, Urdd Teilyngdod, Rock and Roll Hall of Fame |
| Gwefan | https://www.jimmycliff.com |
Cerddor ska, rocksteady, reggae a soul oedd James Chambers (30 Gorffennaf 1944 – 24 Tachwedd 2025). Roedd yn fwy adnabyddus wrth ei enw llwyfan, Jimmy Cliff. Cafodd ei eni yn Jamaica, lle ef oedd yr unig gerddor reggae byw i ddal Urdd Teilyngdod, yr anrhydedd uchaf y gellir ei rhoi gan lywodraeth Jamaica am wasanaethau i'r celfyddydau a'r gwyddorau.
Cafodd Jimmy Cliff ei eni yn Saint James, Trefedigaeth Jamaica, un o naw o blant.[1][2][3] Dechreuodd ysgrifennu caneuon tra oedd yn dal yn yr ysgol gynradd yn St. James. Yn 14 oed, aeth ei dad ag ef i Kingston, lle mabwysiadodd ei enw llwyfan.[4] Fel bachgen, cymrodd ran mewn cystadlaethau talent.
Ar ôl dwy sengl aflwyddiannus, dechreuodd ei yrfa pan ddaeth "Hurricane Hattie" yn boblogaidd tra roedd yn 17 oed.[5] Cafodd ei gynhyrchu gan Leslie Kong (bu farw 1971).[6]
Arwyddodd gytundeb ag Island Records a symudodd i'r Deyrnas Unedig.[5] Ni ddaeth yn llwyddiannus tan ddiwedd y 1960au.[7] Ei albwm cyntaf rhyngwladol oedd Hard Road to Travel, a ryddhawyd ym 1967.[5]
Ei senglau cyntaf llwyddiannus yn y Deyrnas Unedig oedd "Wonderful World, Beautiful People" (1969) a 2Wild World2 (1970).[8]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Greene, Jo-Ann. "Jimmy Cliff Biography". AllMusic. Cyrchwyd 30 August 2020.
- ↑ McGrath, Nick (2012-07-21). "Jimmy Cliff: My family values". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 February 2014. Cyrchwyd 2014-04-24.
- ↑ Williams, Holly (2012-07-28). "My Secret Life: Jimmy Cliff, 64, reggae artist". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 May 2014. Cyrchwyd 2014-04-24.
- ↑ Thompson, Dave (2002). Reggae & Caribbean Music (yn Saesneg). Backbeat Books. t. 76. ISBN 0-87930-655-6.
- ↑ 5.0 5.1 5.2 Greene, Jo-Ann. "Jimmy Cliff Biography". AllMusic. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Medi 2013. Cyrchwyd 2012-12-23.
- ↑ "Leslie Kong, reggae pioneer". Jamaica Observer (yn Saesneg). 19 Gorffennaf 2012. Cyrchwyd 24 Tachwedd 2025.
- ↑ Barrow, Steve; Peter Dalton (1997). Reggae: The Rough Guide (yn Saesneg). Rough Guides. ISBN 1-85828-247-0.
- ↑ "Jimmy Cliff, Jamaican singer who took reggae international with You Can Get It If You Really Want". Daily Telegraph (yn Saesneg). 24 Tachwedd 2025.