Jim Steinman

Oddi ar Wicipedia
Jim Steinman
FfugenwJim Steinman Edit this on Wikidata
GanwydJames Richard Steinman Edit this on Wikidata
1 Tachwedd 1947 Edit this on Wikidata
Claremont, Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Bu farw19 Ebrill 2021 Edit this on Wikidata
o methiant yr arennau Edit this on Wikidata
Danbury, Connecticut Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Coleg Amherst
  • George W. Hewlett High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfansoddwr, canwr, cerddor, cyfansoddwr caneuon, canwr-gyfansoddwr, cynhyrchydd recordiau, pianydd, cynhyrchydd, awdur geiriau Edit this on Wikidata
Adnabyddus amMaking Love Out of Nothing at All Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth roc Edit this on Wikidata

Cyfansoddwr, awdur geiriau caneuon, cynhyrchydd recordiau, a dramodydd Americanaidd oedd James Richard Steinman (1 Tachwedd 194719 Ebrill 2021).[1] Gweithiodd hefyd fel trefnydd, pianydd, a chanwr. Roedd ei waith yn cynnwys caneuon yn yr arddulliau roc cyfoes, dawns, pop, theatr gerdd a sgôr ffilm.

Roedd ei waith yn cynnwys albymau fel Bat Out of Hell gan Meat Loaf (sy'n un o'r albymau a werthodd mwyaf erioed) [2] a Bat Out of Hell II: Back into Hell, a chynhyrchu albymau ar gyfer Bonnie Tyler. Mae ei senglau siart mwyaf llwyddiannus yn cynnwys "Total Eclipse of the Heart" gan Tyler, "Making Love Out of Nothing at All " gan Air Supply , "I’d Do Anything for Love (But I Won't Do That) " gan Meat Loaf, " This Corrosion" a "More" gan Sisters of Mercy, "Read 'Em and Weep" gan Barry Manilow, fersiwn Celine Dion o "It's All Coming Back to Me Now" (a ryddhawyd yn wreiddiol gan brosiect Steinman, Pandora's Box). Ysgrifennodd Steinman geiriau y gân "No Matter What" gan Boyzone (y sengl cyntaf ac unig un y grŵp i fod yn boblogaidd a chyrraedd siartiau yr UDA). Rhyddhawyd unig albwm unigol Steinman Bad for Good ym 1981.

Roedd gwaith Jim Steinman hefyd yn ymestyn i theatr gerdd, lle dechreuodd ei yrfa. Cafodd Steinman gydnabyddiaeth am y llyfr, y gerddoriaeth, a'r geiriau ar gyfer Bat Out of Hell: The Musical, yn ogystal â geiriau ar gyfer Whistle Down the Wind, a cherddoriaeth i Tanz der Vampire.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Steinman yn Hewlett, Efrog Newydd.[3] Ei rieni oedd Louis ac Eleanor. Roedd o dras Iddewig.[4]

Graddiodd Steinman o Ysgol Uwchradd George W. Hewlett yn 1965.[5] Yn 1963, yn ystod ei ail flwyddyn yn Ysgol Uwchradd Hewlett, enillodd Steinman gystadleuaeth traethawd Newsday ar Hanes America am ei draethawd ar yr hyn oedd yn credu oedd y tri dyfais Americanaidd gorau.[6] Derbyniodd Steinman ei radd baglor o Goleg Amherst ym 1969.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Ar adeg ei farwolaeth, roedd Steinman yn byw yn Ridgefield, Connecticut.[7]

Iechyd a marwolaeth[golygu | golygu cod]

Cafodd Steinman strôc yn 2004 a chollodd y gallu i siarad dros dro.[8]

Bu farw Steinman o fethiant yr arennau mewn ysbyty yn Danbury, Connecticut, ar 19 Ebrill 2021 yn 73 mlwydd oed.[3][7] Ar ôl i Steinman farw, dywedodd yr awdur roc Paul Stenning iddo adael "etifeddiaeth aruthrol", gan gyfeirio ato fel "y cyfansoddwr mwyaf erioed o roc symffonig" a'i nodi fel dylanwad ar amrywiaeth o fandiau ar draws sawl genre.[9]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "1997 Grammy Awards" (yn Saesneg). Grammy.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Chwefror 2015. Cyrchwyd 23 Mai 2011.
  2. "50 Best Selling Studio Albums" (yn Saesneg). This Day In Music. Cyrchwyd 7 Chwefror 2021.
  3. 3.0 3.1 Genzlinger, Neil (20 Ebrill 2021). "Jim Steinman, 'Bat Out of Hell' Songwriter, Dies at 73". The New York Times (yn Saesneg). Cyrchwyd 20 Ebrill 2021.
  4. Bright, Spencer (8 Rhagfyr 1996). "Jim'll Fix It (The Sunday Times)". jimsteinman.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 31 Ionawr 2019. Clearly there is a mutual admiration society going on between the knight of the theatre and the half-Jewish New Yorker.
  5. Strauss, Matthew. "Jim Steinman, Songwriter Behind Meat Loaf's Bat Out of Hell, Dies at 73". Pitchfork (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-04-21. Cyrchwyd 2021-04-21.
  6. "Congressional Record: Proceedings and Debates of the ... Congress - United States. Congress - Google Books". web.archive.org (yn Saesneg). 21 Ebrill 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-04-21. Cyrchwyd 2021-04-21.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  7. 7.0 7.1 Brisco, Elise (20 Ebrill 2021). "'Bat Out of Hell' songwriter and producer Jim Steinman dies at 73". USA Today (yn Saesneg). Gannett Co., Inc. Cyrchwyd 21 Ebrill 2021.
  8. "Jim Steinman - Amherst College - May 25th 2013 - Full Speech". youtube.com (yn Saesneg). 25 Mai 2013. Cyrchwyd 24 Awst 2020.
  9. Cyprus Mail, 21 Ebrill 2021

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

  • Steinmania - Yn cynnwys Recordiad 1969 o Dream Engine