Jim O'Rourke a'r Hoelion Wyth

Oddi ar Wicipedia
Jim O'Rourke a'r Hoelion Wyth
Enghraifft o'r canlynolband roc Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1980s Edit this on Wikidata
Label recordioCwmni Recordiau Sain Edit this on Wikidata
Dod i'r brig1984 Edit this on Wikidata
Dod i ben1987 Edit this on Wikidata
Genrecerddoriaeth boblogaidd, canu gwerin Edit this on Wikidata

Grŵp roc Cymraeg o'r 1980au oedd Jim O'Rourke a'r Hoelion Wyth. Roedd yn band ymysg ton o grwpiau poblogaidd canol yr 1980au ar adeg cyn i'r sîn roc rannu rhwng grwpiau mwy "tanddaearol" a rhai a elwyd yn "canol y ffordd" gan lenwi neuaddau a gigiau mawr.[1] Bu'r grŵp yn flaengar wrth gyfuno seiniau Gwyddelig megis y pibau uilleann fewn i ganu poblogaidd Gymraeg. Prif ganwr a chyfansoddwr y band oedd Jim O'Rourke a bu'n brif leisydd a chyfansoddwr i'r grŵp Rocyn cyn hynny ac yna'n Brif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru.

Cydweithio Gwyddelig[golygu | golygu cod]

Un hynodrwydd gan y grŵp oedd iddi ddenu dau gerddor Gwyddelig proffesiynol ac enwog i gyfrannu ar ail albwm y grwp, Y Bont. Fe gyfrannodd Donal Lunny (o'r grwpiau Gwyddelig gwerin cyfoes, Planxty, Bothy Band a Moving Hearts) oeda Davy Spillane (Moving Hearts) yn chwrae'r pibau uilleann ar yr albwm sy'n trin a thrafod yn gerddorol cysylltiadau teuluol Jim O'Rourke a'r Iwerddon. Ar y record honno roedd Terry Williams (Dire Straits) ar y drymiau.[2] Daeth y syniad am y thema Wyddelig gan i daid Jim O'Rourke symud o Youghall ger Corc i Sir Benfro tua 1918, ac roedd yr enw “O’Rourke” yn amlwg yng nghofnodion “Gwrthryfel y Pasg” a charchar Fron Goch ger Y Bala.[3]

Ail sefydlu[golygu | golygu cod]

Ail sefydlwyd y band am daith fel yn 2008 i gyd-fynd â rhyddau albwm CD gan Recordiau Sain o ganeuon gorau'r grŵp a chyn-grŵp Jim O'Rourke, Rocyn. Roedd y gyngerdd gyntaf yn yn Theatr Gwersyll yr Urdd Caerdydd (Canolfan y Mileniwm) ar ddechrau Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2008. Dyma oedd y tro cyntaf i Jim ganu'n fwy gyda band ers Taith “ Y Bont” yn 1987. Chwaraeodd y grŵp yn yr Eisteddfod ac yna taith fer yng ngaeaf 2008-09.[4]

Aelodau[golygu | golygu cod]

Cafwyd gwahanol aelodau i'r grŵp gyda cnewyllun sefydlog ac yna aelodau yn cyfrannu dros dro, neu, yn achos albwm Pentigili, ar gyfer traciau arbennig. Jim O'Rourke oedd prif leisydd a chyfansoddwr y band trwy gydol y cyfnod.

Prif aelodau:

  • Gitâr fâs – Wyn Jones (Ail Symudiad a Recordiau Fflach), yna Ray Jones
  • Drymiau – Gordon Jones
  • Gitâr a llais cefndir – Brian Breeze, yna Greg Harries

Caneuon 'Gwyddelig' ar Pentigili e.e. Hen Wlad Dadcu, Dulyn, Gwyddeles, Y Bont, Sir Benfro:

  • Llais cefndir – Catrin Davies, Sharon Wilshaw Phillips, Sian Davies, Sian Phillips Jones
  • Gitâr fâs, Gitâr Fretless – Dave Bell (11)
  • Drymiau, offer tarro – Terry Williams (bu hefyd yn Dire Straits)
  • Alleweddellau, Bouzouki, Bodhrán – Donal Lunny
  • Gitâr flaen a gitâr rhyddm – Greg Harris
  • Pibau uilleann, chwiban – Davy Spillane
  • Llais, piano – Jim O'Rourke

Disgograffi[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Diffyg Diddordeb yn y [[Sîn Roc Gymraeg]] yn Llanbed". Clonc 260. 2016. URL–wikilink conflict (help)
  2. "Prosiect Da o Ddwy Ynys". The Free Library. 2017.
  3. "Y Bont". Recordiau Sain. 1987.
  4. "Neges gan Jon O'Rourke". Myfyrdodau Siamas Ramblings. 29 Gorffennaf 2008.
  5. "Disgyddiaeth Recordiau Cymraeg" (PDF). Dilwyn Jones. 27 Mehefin 2020.
  6. "Y Bont". Recordiau Sain. 1987.
Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato