Jessie Woodrow Wilson Sayre
| Jessie Woodrow Wilson Sayre | |
|---|---|
| Ganwyd | Jessie Woodrow Wilson 28 Awst 1887 Gainesville |
| Bu farw | 15 Ionawr 1933 Cambridge |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | swffragét |
| Cyflogwr | |
| Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd |
| Tad | Woodrow Wilson |
| Mam | Ellen Axson Wilson |
| Priod | Francis Bowes Sayre |
| Plant | Francis Bowes Sayre, Jr., Eleanor Sayre, Woodrow Wilson Sayre |
Ffeminist a swffragét o'r Unol Daleithiau oedd Jessie Woodrow Wilson Sayre (28 Awst 1887 - 15 Ionawr 1933) a oedd hefyd yn ferch i'r Arlywydd Woodrow Wilson ac Ellen Louise Axson. Fel ei thad, roedd yn ymgyrchydd gwleidyddol a gweithiodd yn egnïol dros bleidlais i fenywod, materion cymdeithasol, ac i hyrwyddo galwad ei thad am Gynghrair y Cenhedloedd, a daeth i'r amlwg fel grym ym Mhlaid Ddemocrataidd Massachusetts." Bu'n briod â Francis Bowes Sayre.[1][2][3]
Fe'i ganed yn Gainesville, Georgia a bu farw yn Cambridge, Massachusetts.
Roedd Jessie Woodrow Wilson yn ail ferch i Woodrow ac Ellen Axson Wilson. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Princeton a Choleg Goucher. Ar ôl iddi raddio o Goucher, bu’n gweithio mewn cartref anheddu yn Philadelphia am dair blynedd.[4]
Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, symudodd y Sayres i Gaergrawnt, Massachusetts, lle derbyniodd Francis swydd ar gyfadran Ysgol y Gyfraith Harvard. Yno, bu’n gweithio er budd y Blaid Ddemocrataidd, Cynghrair y Cenhedloedd, a Chynghrair dros y Bleidlais i Ferched (League of Women Voters).
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Dyddiad geni: "Jessie Woodrow Wilson Sayre". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Jessie Woodrow Wilson". The Peerage. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Jessie Sayre". ffeil awdurdod y BnF.
- ↑ Dyddiad marw: "Jessie Woodrow Wilson Sayre". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Jessie Woodrow Wilson". The Peerage. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Jessie Sayre". ffeil awdurdod y BnF.
- ↑ Doug Wead, "Upstairs at the White House – List of Presidents’ Kids -- Woodrow Wilson Archifwyd 2010-08-23 yn y Peiriant Wayback," at upstairsatthewhitehouse.com, accessed 2010-01-26.
- ↑ Princeton University Library Mudd Manuscript Library, Jessie Wilson Sayre Finding aid Archifwyd 2011-06-10 yn y Peiriant Wayback, adalwyd 2010-01-26.