Jessica Sula

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Jessica Sula
Jessica Sula.jpg
Ganwyd 3 Mai 1994 Edit this on Wikidata
Gorseinon Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
  • Gorseinon College Edit this on Wikidata
Galwedigaeth Actor, actor teledu, actor ffilm Edit this on Wikidata

Actores Gymreig yw Jessica Sula (ganwyd 3 Mai 1994) sy'n fwyaf adnabyddus am chwarae'r cymeriad Grace Blood yn nhrydedd cenhedlaeth y gyfres deledu Brydeinig Skins.[1]

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Sula yng Nghymru. Mae ei mam o Drinidad ac yn hanner Affro-Sbaenaidd a hanner Tsieineaidd tra bod ei thad yn hanner Almaenaidd a hanner Estoniaidd.[2] Fe'i magwyd yng Ngorseinon, lle cwblhawyd ei lefel A yn Sbaeneg, Ffrangeg a Drama yng Ngholeg Gorseinon.[1]

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Fe wnaeth Sula ei ymddangosiad teledu cyntaf yn 2011, wrth bortreadu Grace Blood ym mhumed a chweched gyfres ddrama E4 i'r arddegau Skins.[3] Yn ddiweddarach, cafodd ran yn nrama comedi Love and Marriage a ddarlledwyd ar ITV yn 2013.[4] Yn 2015, castiwyd Sula fel Maddie Graham, y brif ran yn nrama Recovery Road ar sianel Freeform (ABC Family gynt), wrth ochr ei chyd-actor o Skins, Sebastian de Souza.[5]

Mae ganddi ei rhan cyntaf ar y sgrîn fawr fel prif actores yn Honeytrap, stori merch 15 mlwydd oed sy'n trefnu llofruddiaeth bachgen sydd mewn cariad a hi.[6]

Bywyd personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Sula yn chwarae'r gitâr ac yn ymarfer Karate.[7]

Ffilmyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Blwyddyn Teitl Rhan Nodiadau
2011–12 Skins Grace Blood Cyfres deledu E4 (14 pennod)

canwr ym mhennod All because of you (pennod #6.1)

2013 Love and Marriage Scarlett Quilter Cyfres ITV (pennodau)
2014 Honeytrap Layla Ffilm nodwedd
2015 Eye Candy Morgan Pennod (1.4): "YOLO"
2016 Recovery Road Maddie Graham Prif ran[8]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 March, Polly (29 January 2011). "Swansea actress beats 8,000 to Skins role". BBC News. Cyrchwyd 12 February 2012.
  2. "Jessica Sula's ethnicity". Twitter status. 19 February 2012. Cyrchwyd 2 September 2012.
  3. "New Skins star Jessica Sula talks about landing her first TV role". Wales Online. 23 January 2011. Cyrchwyd 25 April 2014.
  4. "Love and Marriage". itv. Cyrchwyd 7 October 2013.
  5. Andreeva, Nellie (10 February 2015). "ABC Family Series 'Recovery Road' Tweaks Cast; Jessica Sula To Play Lead". Deadline. Cyrchwyd 12 February 2015.
  6. "'Skins' star Jessica Sula to play lead in new film 'Honeytrap'". Digital Spy. 12 August 2013. Cyrchwyd 7 October 2013.
  7. "Jessica Sula plays Grace". Channel 4 Press Info. January 2011. Cyrchwyd 6 May 2012.
  8. "Recovery Road: Production Begins on New ABC Family TV Series". TV Series Finale. April 24, 2015. http://tvseriesfinale.com/tv-show/recovery-road-production-begins-on-new-abc-family-tv-series-36327/. Adalwyd April 30, 2015.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Nodyn:Rheol awdurdod