Jesse Jackson
| Jesse Jackson | |
|---|---|
Jesse Jackson ym 1983. | |
| Ganwyd | Jesse Louis Burns 8 Hydref 1941 Greenville |
| Bu farw | 17 Chwefror 2026 Chicago |
| Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | gwleidydd, amddiffynnwr hawliau dynol, Q137178813 |
| Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd |
| Priod | Jacqueline Jackson |
| Plant | Jonathan Jackson, Jesse Jackson Jr., Santita Jackson |
| Gwobr/au | Medal Spingarn, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Doethuriaeth er anrhydedd o Brifysgol Cairo, Commandeur de la Légion d'honneur, Eugene V. Debs Award |
| Chwaraeon | |
| Tîm/au | Illinois Fighting Illini football, North Carolina A&T Aggies football |
| Safle | quarterback |
| Gwlad chwaraeon | Unol Daleithiau America |
| llofnod | |
Ymgyrchydd hawliau sifil i Americanwyr Affricanaidd, gweinidog y Bedyddwyr, a gwleidydd o Unol Daleithiau America oedd Jesse Louis Jackson (ganed Jesse Louis Burns; 8 Hydref 1941 – 17 Chwefror 2026). Ymunodd â'r Mudiad Hawliau Sifil yn y 1960au ac esgynnodd dan adain Martin Luther King a James Bevel i ddod yn un o arweinwyr amlycaf y gymuned Affricanaidd-Americanaidd yn niwedd yr 20g a dechrau'r 21g. Rhwng 1991 a 1997, gwasanaethodd yn ddirprwy cysgodol a seneddwr cysgodol dros Ardal Columbia (sef y brifddinas, Washington), gan gynrychioli'r Blaid Ddemocrataidd. Roedd yn dad i Jonathan Jackson, Aelod o Dŷ'r Cynrychiolwyr, a Jesse Jackson Jr., cyn-aelod o'r Tŷ hwnnw.
Ganed Jesse Louis Burns yn Greenville, De Carolina,[1] yn fab i Helen Burns (1923–2015),[2] myfyrwraig ysgol uwchradd, a Noah Louis Robinson, dyn priod 33 oed.[3] Ar ôl graddio o'r ysgol uwchradd ym 1959, astudiodd Jesse Jackson ym Mhrifysgol Illinois, ar ysgoloriaeth bêl-droed Americanaidd. Trosglwyddodd i North Carolina A&T, prifysgol ddu hanesyddol yn Greensboro, Gogledd Carolina. Yn A&T, cafodd Jackson ei ethol yn llywydd corff y myfyrwyr. Graddiodd gyda gradd BSc mewn cymdeithaseg ym 1964, yna mynychodd y Chicago Theological Seminary ar ysgoloriaeth.
Daeth yn weithgar ym myd gwleidyddiaeth yn y 1960au a sefydlodd y cyrff a fyddai'n cyfuno ym 1971 i ffurfio clymblaid Rainbow/PUSH. Wrth ehangu ei waith i gynnwys materion rhyngwladol yn y 1980au, daeth yn feirniad amlwg o weinyddiaeth yr Arlywydd Ronald Reagan a lansiodd ymgyrch arlywyddol ym 1984. Er et fod yn cael ei ystyried yn ymgeisydd ymylol i ddechrau, gorffennodd yn drydydd ar gyfer enwebiad y Blaid Ddemocrataidd, y tu ôl i'r cyn Is-Arlywydd Walter Mondale a'r Seneddwr Gary Hart. Parhaodd â'i weithredu gwleidyddol a lansiodd ail ymgyrch arlywyddol ym 1988, gan orffen yn ail i Lywodraethwr Massachusetts, Michael Dukakis.
Ni cheisiodd Jackson yr arlywyddiaeth eto, ond ym 1990 fe'i hetholwyd yn seneddwr cysgodol dros Ardal Columbia, gan wasanaethu un tymor o 1991 i 1997. Er iddo feirniadu'r Arlywydd Bill Clinton ar y cychwyn, daeth yn gefnogwr iddo'n ddiweddarach. Cyflwynodd Jackson y rhaglen deledu Both Sides with Jesse Jackson ar CNN o 1992 i 2000. Roedd yn aml yn lladd ar greulondeb yr heddlu, y Blaid Weriniaethol, a pholisïau ceidwadol. Fe'i hystyriwyd yn un o arweinwyr Affricanaidd-Americanaidd mwyaf dylanwadol ei oes ac yn eicon o ryddfrydiaeth flaengar yn yr Unol Daleithiau.
Bu farw Jesse Jackson yn 84 oed, wedi dioddef o glefyd Parkinson a pharlys uwchgnewyllol cynyddol (PSP) am sawl blwyddyn.[4]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Jackson, Jesse Louis". Stanford: The Martin Luther King, Jr. Research and Education Institute (yn Saesneg). Stanford University. Cyrchwyd September 10, 2023.
- ↑ "Helen Burns Jackson, mother of civil rights leader dies at 92". CBS News (yn Saesneg). September 7, 2015. Cyrchwyd February 17, 2026.
- ↑ Smothers, Ronald (30 Ionawr 1997). "N. L. Robinson, Jesse Jackson's Natural Father, Is Dead at 88". The New York Times (yn Saesneg). ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 17 Chwefror 2026.
- ↑ (Saesneg) Peter Applebome, "Jesse Jackson, Civil Rights Leader Who Sought the Presidency, Dies at 84", The New York Times (17 Chwefror 2026). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 17 Chwefror 2026.
- Genedigaethau 1941
- Marwolaethau 2026
- Clerigwyr yr 20fed ganrif o'r Unol Daleithiau
- Clerigwyr yr 21ain ganrif o'r Unol Daleithiau
- Derbynwyr Medal Rhyddid yr Arlywydd
- Enillwyr Gwobr Grammy
- Gweinidogion Bedyddwyr o'r Unol Daleithiau
- Gwleidyddion yr 20fed ganrif o'r Unol Daleithiau
- Gwleidyddion Affricanaidd-Americanaidd
- Pobl a aned yn Ne Carolina
- Pobl fu farw yn Chicago
- Pobl gyda clefyd Parkinson
- Ymgyrchwyr yr 20fed ganrif o'r Unol Daleithiau
- Ymgyrchwyr yr 21ain ganrif o'r Unol Daleithiau
- Ymgyrchwyr hawliau sifil o'r Unol Daleithiau