Neidio i'r cynnwys

Jeremeia Jones

Oddi ar Wicipedia

"Comedi fywiog gyda chaneuon" yw Jeremeia Jones, a grëwyd a llwyfannwyd gan Theatr Gorllewin Morgannwg ym 1988. Is deitl y sioe oedd "y byd yn erbyn y gwir".[1]

Jeremeia Jones
Enghraifft o'r canlynolsioe theatr
Dyddiad cynharaf1988
Awdurgwaith tîm gan Theatr Gorllewin Morgannwg
IaithCymraeg
Cysylltir gydaTheatr Gorllewin Morgannwg

"Gan mai hon yw'n chweched cynhychiad ar hugain mewn llai na chwe mlynedd", noda'r rhaglen, "Gobeithio'n fawr y mwynhewch eich hun heno".[1]

Cynyrchiadau nodedig

[golygu | golygu cod]

Llwyfannwyd y sioe am y tro cyntaf ym 1988 gan Theatr Gorllewin Morgannwg. Cyfarwyddwr Tim Baker; cynllunydd Carys Tudor; cast Sara Harris-Davies, Manon Eames, Gwyn Vaughan [Jones] a Derec Parry [Rhys Parry Jones].

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 Theatr Gorllewin Morgannwg (1988). Rhaglen Jeremeia Jones.